Weston-super-Mare

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Weston super Mare
Weston-Super-Mare view.jpg
Math tref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Weston-Super-Mare
Poblogaeth 76,143 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Hildesheim Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwlad yr Haf
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.3461°N 2.9769°W Edit this on Wikidata
Cod OS ST320613 Edit this on Wikidata
Cod post BS22, BS23, BS24 Edit this on Wikidata

Tref ar lan y môr yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Weston-super-Mare. Fe'i lleolir ar Fôr Hafren tua 18 milltir i'r de o Fryste. Mae'n enwog am ei thraeth tywodog, er bod y môr ar drai yn gallu bod dros filltir i ffwrdd o'r traeth. Er iddi arfer bod yn rhan o Wlad yr Haf, cafodd ei gynnwys yn sir Avon o 1974 ymlaen. Pan gafodd sir Avon ei diddymu ym 1996, crewyd awdurdod unedol Gogledd Gwlad yr Haf, a Weston yn ganolfan weinyddol iddo. Lleolir rhan fwya'r dref ar dir isel gwastad, ond mae rhan o'r dref yn llechi ar lethrau Worlebury Hill, bryn carreg galch sydd yn rhan o'r Bryniau Mendip.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae enw'r dref yn tarddu o'r Hen Saesneg am 'tref y gorllewin'. Ychwanegwyd y Lladin super mare 'ar y môr' yn ystod yr Oesoedd Canol, er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth nifer o drefi a phentrefi yn yr ardal o'r un enw. Defnyddiwyd enwau eraill yn yr Oesoedd Canol hefyd, megis Weston-propre-Worle, Weston-juxta-Mare a Weston-upon-More. Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yn defnyddio ei enw presennol ym 1348.

Hanes y dref[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos bod pobl yn byw ar frig Worlebury Hill o'r Oes Carreg ymlaen, a cheir olion caer Oes Haearn yno hefyd, a chwalwyd, mae'n debyg, gan y Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf OC. Yn y Domesday Book, mae cyfeiriadau at nifer o lefydd sydd bellach yn ardaloedd o'r dref: Ashcombe (yn cynnwys safle canol y dref heddiw), Worle, Milton, Kewstoke ac Uphill. Yn yr Oesoedd Canol, tref bwysicaf yr ardal oedd Worle, sydd bellach yn faesdref i Weston. Ceir y cyfeiriad cyntaf at Weston ei hun yng nghyfnodion Deon Wells ym 1226. Mae hyn yn awgrymu i eglwys gael ei hadeiadu yno yn y 12g.

Y traeth a Gerddi'r Gaeaf.

Serch hynny, hyd at y 19g, dim ond pentref pysgota bychan oedd Weston-super-Mare. Daeth tŵf mawr yn ystod y 19g gyda'r rheilffordd a'r diddordeb mawr Fictorianaidd mewn gwyliau ar lan y môr. Daeth ymwelwyr yn llu ar y rheilffordd o Fryste ac o Ganolbarth Lloegr. Cafodd glowyr de Cymru wyliau yno hefyd gan ddod ar y stemar olwyn o Gaerdydd a Chasnewydd. Adeiladwyd villas a thai mawr ar lethrau Worlesbury Hill o'r 1850au ymlaen.

Ers yr Ail Ryfel Byd mae lle Weston fel tref wyliau wedi dirywio. Mae costau teithio ar dramor wedi gostwng, ac felly mae'n well gan lawer o bobl gymryd eu gwyliau mewn gwledydd tramor megis Sbaen, Ffrainc a'r Eidal. Hefyd, gyda dirywiad diwydiant ledled Prydain, mae llai o weithwyr diwydiannol yn barod i gymryd eu gwyliau gyda'i gilydd.

Pier wsm.jpg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Traeth