Bryniau Mendip
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwlad yr Haf |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 325 metr |
| Cyfesurynnau | 51.3°N 2.73°W |
| Hyd | 45 cilometr |
| Cyfnod daearegol | Carbonifferaidd |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol |
| Manylion | |
| Deunydd | calchfaen |
Cadwyn o fryniau calchfaen yng ngogledd Gwlad yr Haf yw'r Bryniau Mendip. Mae'r calchfaen wedi erydu mewn mannau i greu ceunentydd. Yr enwocaf o'r rhain yw Ceunant Cheddar a Burrington Combe. Man ucha'r bryniau yw Beacon Batch ar Black Down gydag uchder o 325m uwchben lefel y môr. Mewn rhai ardaloedd mae'r calchfaen yn cynnwys haenau mwynau plwm a sinc. Cafodd y plwm ei fwyngloddio o'r cyfnod Rhufeinig hyd y 19g. Prif ddinasoedd a threfi'r ardal yw Cheddar, Shepton Mallet a Wells.

Hanes
[golygu | golygu cod]Lleolir Ogofâu Wookey Hole, safle archaeolegol o Oes y Cerrig, ym Mryniau Mendip.
