Ardal Mendip
Gwedd
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gwlad yr Haf |
| Prifddinas | Shepton Mallet |
| Poblogaeth | 114,881 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 739.4356 km² |
| Cyfesurynnau | 51.191°N 2.5479°W |
| Cod SYG | E07000187 |
| Cod post | BA4 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Mendip District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Mendip (Saesneg: Mendip District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 739 km², gyda 115,587 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Sedgemoor i'r gorllewin, De Gwlad yr Haf i'r de, a Gogledd Gwlad yr Haf a Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf i'r gogledd, yn ogystal â sir Wiltshire i'r dwyrain.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 62 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Shepton Mallet. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys dinas Wells, trefi Frome a Glastonbury, a phentref mawr Street.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 3 Tachwedd 2020
