Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
|---|---|
| Prifddinas | Caerfaddon |
| Poblogaeth | 193,409 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 345.7 km² |
| Cyfesurynnau | 51.39°N 2.32°W |
| Cod SYG | E06000022 |
| GB-BAS | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Bath and North East Somerset Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf (Saesneg: Bath and North East Somerset, B&NES).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 346 km², gyda 193,282 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â Gogledd Gwlad yr Haf i'r gorllewin, ac Ardal Mendip i'r de, yn ogystal â siroedd Bryste i'r gogledd-orllewin, Swydd Gaerloyw i'r gogledd]] a Wiltshire i'r dwyrain.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd Swydd Avon. Fe'i crëwyd trwy uno dwy ardal an-fetropolitan, sef Ardal Wansdyke a Dinas Caerfaddon, yn y sir honno. Fel awdurdod unedol, mae'n annibynnol ar sir Gwlad yr Haf.
Rhennir yr ardal yn 51 o blwyfi sifil, gydag un ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys dinas Caerfaddon. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Keynsham, Midsomer Norton a Radstock.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 4 Tachwedd 2020
