Llangawsai
Math | lle |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Aberystwyth |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Ardal fechan yn Aberystwyth, heb ei chydnabod fel uned weinyddol yw Llangawsai.
Er gwaethaf yr enw, nid oes gan yr enw ddim oll i'w wneud ag eglwys neu lan. Yn hytrach, cam-ddealltwriaeth a cham-glywediad yw'r ffurf bresenol o'r ffurf wreiddiol ar yr enw, 'llain y causey'.[1]
Mae'r ardal yn cwympo rhwng hen bentref Llanbadarn Fawr a thref Aberystwyth. Mae'r ardal yn ymestyn oddeutu 200 metr o ben dwyreiniol Ffordd Llanbadarn a'r tai a'r tir oddeutu cylchfan bresennol sy'n arwain ar fynedfa Ysgol Penweddig ar Ffordd Quebec, yr A44.
Mae'n cwympo o fewn dalgylch ward Llanbadarn Fawr - Sulien o fewn Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr a hefyd Cyngor Sir Ceredigion.