Lle

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae gan y gair lle sawl ystyr ac anodd yw ei gyfieithu i'r Saesneg. Gall olygu man penodol, fel yn y frawddeg 'Mae Aberystwyth yn lle braf'. Mae hyn yn agos i'r gair place yn Saesneg. Fodd bynnag, gall hefyd ddynodi lle gwag neu wagle, fel yn y brawddegau 'Mae yna le i barcio y tu allan' a 'Does dim digon o le ar y bws i chi'. Mae hyn yn nes mewn ystyr i'r geiriau room neu space yn Saesneg.

Weithiau, defnyddir 'lle' i ddynodi cysyniad mwy cyffredinol, sef math o fan â rhyw nodwedd benodol iddo, er enghraifft, lle swyddfa (office space), a elwir yn space yn Saesneg. Mewn daearyddiaeth, defnyddir 'lle' yn bennaf i ddynodi man penodol mewn gofod daearyddol ac yn hyn o beth gellir ei ddefnyddio i gyfieithu'r gair place mewn cyd-destunau daearyddol. Dylid nodi, fodd bynnag, y gall 'lle' a 'man' ddynodi space mewn rhai cyd-destunau lle trafodir mathau o ofod penodol, er enghraifft, 'lle gwyrdd' (green space) a 'man cyhoeddus' (a public space).

Mewn llenyddiaeth ddaearyddol, awgrymir bod gan leoedd, yn yr ystyr mannau penodol, sawl nodwedd. Maent yn unigryw, ffiniedig ac mae ganddynt ymddangosiad a safle mewn gwagle. Fodd bynnag, mae mwy i le na bod yn lleoliad penodol yn y byd. Yn ogystal, mae ganddo hanes ac ystyr i'r ddynolryw sy'n golygu ei fod yn ymddangos yn gyson a sefydlog er ei fod yn newid dros amser: yr hyn mae rhai awduron yn galw'r genius loci, sef ysbryd unigryw lle (Relph, 1976/2008). Er enghraifft, Aberystwyth yw Aberystwyth o hyd, er gwaethaf newidiadau dros y blynyddoedd yn nhirlun y dref a'i phoblogaeth, wrth i adeiladau a ffyrdd newydd gael eu codi, tirnodau eraill gael eu dymchwel a miloedd o fyfyrwyr yn symud i'r dref i astudio cyn gadael ar ôl iddynt raddio. Golyga hyn fod mwy i leoedd na'r nodweddion corfforol a synhwyrol sy'n perthyn iddynt. Mae ystyr lle yn mynd yn bellach na'r hyn mae pobl yn ei weld, mae’n treiddio i'w hemosiynau a'u teimladau. Felly, mae daearyddwyr yn sôn am synnwyr o le. Gall hyn fod yn bwysig iawn i hunaniaeth pobl gan fod ein bro gynefin yn gallu effeithio ar y ffordd yr ydym yn diffinio ein hunain a dweud llawer am rywun fel person i bobl eraill (Crang, 1998).

Mewn gwirionedd, awgryma Relph (1976/2008) fod cael perthynas â lleoedd sy'n golygu rhywbeth i ni, yn rhan o fod yn aelod o'r ddynolryw. Wrth i'r byd gael ei effeithio gan brosesau globaleiddio, mae rhai awduron wedi awgrymu bod lleoedd wedi mynd mor gysylltiedig, a'r perthnasau rhyngddynt mor estynedig, nad oes modd siarad am le bellach (Castells, 1989; Emberley, 1989) gan nad oes modd i bobl roi ystyr i ofod fel yr oeddent yn y gorffennol pan oedd lleoedd yn ddiffiniedig a llonydd. Eto i gyd, mae eraill yn dadlau ei bod yn bwysig nodi bod lleoedd erioed wedi bod yn agored i leoedd eraill ac yn gysylltiedig â hwy. Nid oeddent erioed wedi bod yn gaeedig ac yn ddi-newid. Maent wedi cael eu heffeithio gan leoedd cyfagos a phell i ffwrdd drwy hanes. Un enghraifft dda o hyn yw'r siroedd o gwmpas Llundain a elwir yn Saesneg yr home counties (Massey,1995). Y siroedd hyn yw tarddiad llawer o'r delweddau nodweddiadol o Loegr a Seisnigrwydd. Yn hanesyddol, dyma gartref i bobl y dosbarth canol a phobl gefnog y dosbarth uwch â phlastai boneddigaidd yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, roedd y cyfoeth a greodd yr anheddau hyn yn seiliedig ar fuddsoddiadau mewn gweithgareddau y tu hwnt i'r siroedd dan sylw, er enghraifft, gweithgareddau gwladychu a chaethwasiaeth a oedd yn digwydd mewn gwledydd tramor a rhannau eraill o'r DG megis Lerpwl a De Cymru. Gellid awgrymu felly bod lleoedd yn cael eu ffurfio gan nifer fawr o gysylltiadau cymdeithasol wedi'u hymestyn drwy ofod. (Efallai bod hyn yn amlycach yn y Gymraeg wrth ystyried bod 'lle' yn gallu golygu darn penodol o ofod daearyddol neu rywbeth mwy cyffredinol). Crëir y nodweddion unigryw sydd i leoedd yn rhannol gan y cysylltiadau rhyngddynt.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Daearyddiaeth ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.