Sgwrs:Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ydy'r hysbysrwydd am CECB yn ddigon sylwadwy? Dwi newydd sylweddoli y cafodd e ei ychwanegu gan y disgybl enwyd yn yr erthygl am fod wedi ei sefydlu (gwelwch enw'r defnyddiwr yma). Yn gyffredinol, dydy hi ddim yn syniad da i bobl ysgrifennu am eu hunain, dwi'n meddwl. Alan012 11:23, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n symud y testun i'r dudalen sgwrs hon (fel dwi newydd ei wneud yn Wikipedia Saesneg hefyd) nawr, tan yr arddangosir gonsensws i'w roi yn ôl.

== CECB ==
Yn 2006, sefydlwyd y Cymdeithas yn Erbyn Cynhesu Byd-eang gan Cadan ap Tomos, disgybl ym Mlwyddyn 8 (eisioes yn Blwyddyn 9). Mae'r grŵp yn brwydro yn galed i wneud yr ysgol yn fwy "gwyrdd" mewn unrhyw ffordd posibl. Mae'r grŵp hefyd yn aelod o'r grŵp Eco-Ysgolion yng Nghymru, ac maent yn gweithio tuag at y Faner Werdd fel rhan o'r grŵp yna.

Alan012 08:00, 16 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Wedi'i ddiwygio i gael gwared ar gam-dreiglo cwbl drychinebus. Gobeithio i'r nefoedd nad cyn-ddisgybl neu, yn waeth fyth, aelod staff oedd yn gyfrifol am hyn. Cywilydd arnoch. Sylwadwy, beth yn y greadigaeth yw'r fath air - golchwch eich ceg gyda sebon.

Ehangu[golygu cod]

Dw i wedi ceisio gwiro ac ehangu'r erthygl yma, gan y bu cymaint o fandaleiddio arni. Yn rhyfedd iawn, nid yw cyfeiriadau IP'r fandaliaid yn dod o'r un lle, sy'n arwain rhywun i feddwl mai rhywun/rai o'r tu allan i'r ysgol sydd wrthi ee - un golygiad o'r cyf IP hwn. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:32, 20 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]