Daniel Gwydion Williams
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol ![]() |
Aelod o'r canlynol | Cymdeithas Ddysgedig Cymru ![]() |
Mae Daniel Gwydion Williams (fel rheol, Daniel Williams) (ganwyd Mai 1972) yn ddarlithydd, awdur a cherddor jazz. Mae'n arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg o Gymru, y cysylltiad rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau a phrofiadau, diwylliant a llenyddiaeth bobl ddu America, amlieithrwydd a theori a llenyddiaeth asgell chwith.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Magwyd Daniel Williams yn Aberystwyth lle fynychodd Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn y dref. Mae'n un o ddau fab ac mae ei frawd, Tomos, yn canu'r trwmped gydag ef yn eu band jazz, 'Burum'.[1] Ei dad yw'r hanesydd, Gareth Williams sy'n arbenigwr ar hanes cymdeithasol Cymru y 19g a'r 20g ac yn arbennig hanes canu corawl a rygbi.
Mae Daniel yn byw ym Mhontardawe ac yn briod a ganddo ddau blentyn.
Mae'n Athro a darlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Abertawe.
Gyrfa Academaidd[golygu | golygu cod]
Addysgwyd ef ym Mhrifysgol East Anglia, Prifysgol Harvard a Choleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt. Mae bellach yn Athro Llenyddiaeth Saesneg Canolfan Richard Burton ar gyfer astudio Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.[2]
Roedd yn Athro gwadd ym Mhrifysgol Harvard yn 2012, swydd a ariannwyd gan y Leverhulme Trust ac mae'n un o gyfarwyddwyr CREW, sy'n ganolfan ymchwil i lên ac iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe[3].
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
Awdur
- Ethnicity and Cultural Authority: From Arnold to Du Bois (Gwasg Prifysgol Caeredin, 2006)
- Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012).
Golygydd
- Slanderous Tongues: Essays on Welsh Poetry in English 1970-2005 (Gwasg Seren, 2010)
- Canu Caeth: Affro-Americaniaid a’r Cymry (Gwasg Gomer, 2010)
- Beyond the Difference: Welsh Literature in Comparative Contexts (University of Wales Press, 2004) cyd-awdurwyd gydag Alyce von Rothkirch
- Who Speaks for Wales? Nation, Culture, Identity (University of Wales Press, 2003) golygydd casgliad o ysgrifau Raymond Williams
- Safbwyntiau (2012 - ) golygydd cyffredinol y gyfres ar astudiaethau diwylliannol (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Writing Wales in English (Gwasg Prifysgol Cymru), cyfres o fonograffau CREW. Cyd-olygydd gyda Kirsti Bohata
- The Celtic Nations and the African-Americas (2010) cyfrol arbennig a Astudiaethau Cymharol Americanaidd
- Raymond Williams in Japan (2011) cyfrol arbenig o 'Keywords'
Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]
Mae'n canu'r sacsoffon gyda'r chwechawd gwerin-jazz, Burum. Perfformiodd y band yng Gŵyl Ryng-geltaidd An Oriant yn Llydaw yn 2018.[4]
Discograffi[golygu | golygu cod]
- Alawon: The Songs of Welsh Folk (Recordiau Fflach, 2007)
- Caniadau (Recordiau Bopa, 2012)
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]
Mae'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Cymuned Pontardawe.[5] Safodd fel ymgeisydd i Blaid Cymru yn etholaeth Castell-nedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 a 2019.
Dolenni[golygu | golygu cod]
- Daniel Gwydion Williams ar Twitter
- Gwefan Burum
- 'Lisa Lân' gan Burum gyda Daniel Williams ar Saxaffon, Youtube