Neidio i'r cynnwys

Sacsoffon

Oddi ar Wicipedia
Sacsoffon
Enghraifft o:math o offeryn cerdd Edit this on Wikidata
Mathofferyn chwythbren, single clarinets with conical bore, offeryn cerdd â chorsen sengl Edit this on Wikidata
GwladGwlad Belg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1840 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSaxophone tone hole Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/06ncr edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF2326 edit this on wikidata
QuoraSaxophones edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
O'r chwith i'r dde, sacsoffon alto yn E, sacsoffon soprano yn B, a sacsoffon tenor yn B

Offeryn cerdd chwythbren yw'r sacsoffon a ddyfeisiwyd gan Adolphe Sax ym 1846. Bwriad Sax oedd creu offeryn y byddai'n hawdd i'w chwarae mewn ystod o allweddi a thros amrediad eang - yn yr un ffordd a oedd yn bosib gydag offerynnau chwyth fel clarinét neu ffliwt - tra'n creu sŵn pwerus fyddai'n bosib ei glywed uwchben nifer o synau eraill, fel oedd yn bosib gydag offerynnau pres. Bwriadwyd yr offeryn yn wreiddiol ar gyfer bandiau milwrol neu fandiau pres, ac fe greodd Sax nifer fawr o fersiynau gwahanol mewn nifer o allweddi gwahanol gydag ystod enfawr, er mai pedwar fersiwn yn unig sy'n gyffredin heddiw:

  • Sacsoffon soprano yn B
  • Sacsoffon alto yn E
  • Sacsoffon tenor yn B
  • Sacsoffon baritôn yn E

Er bod sacsaffonau o fathau gwahanol yn amrywio o ran siâp a maint, maent yn creu sain yn yr un ffordd ac mae'r dechneg o ran byseddu yr un fath; mae hyn yn golygu y gall unigolion sydd wedi dysgu i chwarae sacsoffon o un fath godi un o fath arall a'i chwarae yn weddol hawdd. Mae'r sacsoffon wedi ei adeiladu o bres yn bennaf, fel trwmped neu drombôn. Fodd bynnag, nid offeryn pres go iawn yw'r sacsoffôn: o ran y dull a ddefnyddir i greu sŵn, mae'r sacsoffon yn debyg iawn i'r clarinét ac yn creu sain drwy drwy ddefnyddio corsen yn yr un ffordd. Mae'r sacsoffon felly yn perthyn i deulu yr offerynnau chwyth ac mae sŵn y sacsoffon yn ymdebygu i sŵn y clarinét, er bod y dull o'i chwarae o ran allweddau'r offeryn yn debyg iawn i'r ffliwt clasurol fodern - seiliodd Sax yr offeryn ar system Theobald Boehm ar gyfer y ffliwt.

Mae'r sacsoffon yn offeryn boblogaidd mewn jazz, bandiau milwrol a ska ymysg mathau eraill o gerddoriaeth.

Sacsaffonwyr Enwog

[golygu | golygu cod]

Sacsoffonwyr jazz:

Sacsoffonwyr pop:

Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn cerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.