Charlie Parker
| Charlie Parker | |
|---|---|
| Ganwyd | 29 Awst 1920 Dinas Kansas, Dinas Kansas |
| Bu farw | 12 Mawrth 1955 o niwmonia Dinas Efrog Newydd, Manhattan |
| Label recordio | Verve Records, Savoy Records, Mercury Records, Dial Records |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | chwaraewr sacsoffon, cerddor jazz, cerddor, cyfansoddwr |
| Arddull | jazz, bebop |
| Prif ddylanwad | Buster Smith |
| Priod | Chan Parker |
| Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Chwaraewyr Jazz Unigol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Kansas Music Hall of Fame |
| Gwefan | https://charliebirdparker.com/ |
Sacsoffonydd jazz Americanaidd oedd Charlie Parker (yn gywir, Charles Parker Jr.; 29 Awst 1920 – 12 Mawrth 1955). Fe'i adnabuwyd hefyd gan y llysenwau Yardbird a Bird.[1] Ef yw ffigwr canolog yr is-arddull o fewn jazz sy'n dwyn yr enw bebop.[2]
Plentyndod
[golygu | golygu cod]Ganwyd Parker yn Kansas City, Kansas, a chafodd ei fagu yn Kansas City, Missouri, unig blentyn Charles Parker ac Adelaide "Addie" (Bailey), a oedd o gefndir cymysg du a Choctaw.[3] Dechreuodd chwarae'r sacsoffon yn 11 oed, gan ymuno â band ei ysgol yn 1914 ar ôl rhentu offeryn. Roedd ei dad yn bianydd ac yn ddawnsiwr a rhoddodd rhywfaint o arweinyddiaeth gerddorol i'r Parker ifanc.
Gryfa Gerddorol
[golygu | golygu cod]O'r dechrau, bu Parker yn gweithio'n galed iawn ar ei gerddoriaeth: honnodd mewn cyfweliad iddo ymarfer am hyd at 15 awr y diwrnod am gyfnod o dair i bedair blwyddyn.[4] Chwaraeodd mewn nifer o fandiau yn y 30au hwyr a'r 40au cynnar, gan gynnwys band Earl Hines, lle'r oedd yn chwarae gyda'r trwmpedwr Dizzy Gillespie a fyddai'n gydymaith pwysig i Parker yn natblygiad bebop.
Yn ystod y 40au cynnar, roedd Parker yn un o grŵp o gerddorion yn gynnwys Gillespie, Thelonious Monk ac eraill a ddatblygodd arddull newydd o chwarae jazz a ddaeth i ddwyn yr enw bebop. Arddull oedd hon a oedd yn gyflymach ac yn fwy cymhleth o na swing o ran harmonïau a melodi, gan gynnig posibiliadau ehangach ar gyfer byrfyfyrio gan alw am feistrolaeth o'r offeryn. Er yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid ar y dechrau, daeth bebop yn gynsail i jazz modern am weddill yr 20g, a bu arddull Parker o chwarae'r sacsoffon yn benodol a jazz yn gyffredinol yn ddylanwad enfawr ar genhedlaeth o gerddorion.
Recordiodd Parker nifer fawr o recordiau gyda cherddorion gan gynnwys Gillespie, Monk, Bud Powell a Miles Davis. Yn enwedig tua diwedd ei yrfa, roedd ei recordiau yn gynyddol lwyddiannus o ran gwerthiant; fodd bynnag, bu Parker yn dioddef drwy ei yrfa o drafferthion ariannol, yn bennaf oherwydd ei natur annibynadwy a'i gaethineb i heroin, a gyfrannodd at ei farwolaeth yn 1955 yn 34 oed yn unig. Dywedodd Miles Davis ohono, "You can tell the history of jazz in four words: Louis Armstrong. Charlie Parker."[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Charlie Parker Biography – Facts, Birthday, Life Story". Biography.com. Cyrchwyd 17 Chwefror 2014.
- ↑ "Charlie Parker". The New Grove Dictionary of Jazz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-01. Cyrchwyd 23 Ebrill 2012.
- ↑ Dictionary of World Biography: The 20th century, O-Z gan Frank Northen Magill
- ↑ "Paul Desmond interviews Charlie Parker". puredesmond.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 1 Mawrth 2011.
- ↑ Griffin, Farah Jasmine; Washington, Salim (2008). Clawing at the Limits of Cool: Miles Davis, John Coltrane, and the Greatest Jazz Collaboration Ever. New York: Thomas Dunne Books. t. 237.