Louis Armstrong

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Louis Armstrong
Louis Armstrong restored.jpg
FfugenwSatchmo, Pops Edit this on Wikidata
GanwydLouis Daniel Armstrong Edit this on Wikidata
4 Awst 1901 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1971 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Label recordioABC Records, Audio Fidelity, Columbia Records, Decca Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, artist stryd, trympedwr, arweinydd band, arweinydd, cerddor jazz, canwr, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, actor ffilm, cerddor, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd radio, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddulljazz Edit this on Wikidata
Math o laisbariton, basso profondo Edit this on Wikidata
PriodLil Hardin Armstrong Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Seren ar Rhodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.louisarmstronghouse.org/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Louis Armstrong signature.svg

Cerddor jazz Americanaidd oedd Louis Daniel Armstrong (4 Awst 1901 - 6 Gorffennaf 1971) oedd yn cael ei adnabod wrth y Llysenw: "Satchmo"

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Armstrong yn New Orleans ar 4 Awst, 1901. [1][2][3][nb 1][5]}} Ei rieni oedd Mary Albert a William Armstrong. Esgorodd Mary Albert ar Louis gartref pan oedd hi tua un ar bymtheg. Gadawodd William Armstrong y teulu yn fuan wedi hynny. [6] Tua dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd William Armstrong ferch, Beatrice "Mama Lucy" Armstrong, a gafodd ei magu gan Albert. [7]

Magwyd Louis Armstrong gan ei nain hyd ei fod yn bump oed pan ddychwelwyd ef at ei fam. [8] Treuliodd ei ieuenctid mewn tlodi mewn cymdogaeth arw o'r enw The Battlefield. [9] Yn chwech oed mynychodd Ysgol Bechgyn Fisk, [10] ysgol oedd yn derbyn plant du mewn system yn New Orleans oedd yn gwahanu addysg yn ôl hil. Gwnaeth swyddi man i'r teulu Karnoffsky, teulu o Iddewon o Lithwania. Astudiodd reoli llongau am gyfnod byr yn y coleg cymunedol lleol, ond gorfodwyd ef i roi'r gorau iddi ar ôl methu â fforddio'r ffioedd. [11]

Pan oedd Armstrong yn un ar ddeg oed, fe adawodd yr ysgol. [10] Symudodd ei fam i mewn i dŷ un ystafell ar Perdido Street gydag ef, Lucy, a'i phartner, Tom Lee, drws nesaf at ei brawd Ike a'i ddau fab. [12] Ymunodd Armstrong â phedwarawd o fechgyn a oedd yn canu ar y strydoedd am arian.

Gan fenthyg gwn ei lystad heb ganiatâd, fe daniodd bwled wag i’r awyr a chafodd ei arestio ar 31 Rhagfyr, 1912. Treuliodd y noson yn Llys Ieuenctid New Orleans, yna cafodd ei ddedfrydu drannoeth i gael ei gadw yng Nghartref Plant Duon Amddifad New Orleans. [13] Tlodaidd oedd bywyd yn y cartref. Roedd matresi yn absennol; yn aml nid oedd prydau bwyd mawr mwy na bara a thriagl. Roedd pennaeth y cartref, y Capten Joseph Jones yn ei redeg fel gwersyll milwrol ac yn defnyddio cosb gorfforol. [14]

Datblygodd Armstrong ei sgiliau cornet trwy chwarae ym mand y cartref. Daeth Peter Davis, a ymddangosai yn aml yn y cartref ar gais y Capten Jones, [15]yn athro cyntaf Armstrong a'i ddewis i arwain band y sefydliad.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl cael ei ryddhau o'r cartref plant ceisiodd Armstrong waith fel cerddor. Daeth o hyd i swydd mewn neuadd ddawns oedd yn eiddo i Henry Ponce, a oedd â chysylltiadau â throsedd cyfundrefnol. Ym 1918 cafodd le mewn ban oedd yn perfformio ar stemar afon, band Fate Marable. Roedd Marable yn falch o'i wybodaeth gerddorol, a mynnodd fod Armstrong a cherddorion eraill ei fand yn dysgu darllen cerddoriaeth. Ym 1919, ymunodd a band Kid Ory. Daeth hefyd yn ail utgorn ym Mand Pres Tuxedo.

Tua 1922, dilynodd Armstrong ei fentor, Joe "King" Oliver, i Chicago i chwarae yn y Band Jazz Creole. Yn Chicago, treuliodd amser gyda cherddorion jazz poblogaidd eraill, gan ailgysylltu â'i ffrind Bix Beiderbecke a threulio amser gyda Hoagy Carmichael a Lil Hardin. Enillodd enw da mewn cystadlaethau canu offeryn ar y pryd. Clywodd yr arweinydd band, Fletcher Henderson am y cerddor ifanc dawnus. Perswadiodd Henderson Armstrong i fynd i Ddinas Efrog Newydd, lle daeth yn unawdydd band ac artist recordio enwog a dylanwadol. Daeth Hardin yn ail wraig i Armstrong a dychwelodd y cwpl i Chicago i chwarae fel deuawd. Dechreuodd Armstrong ffurfio ei fandiau jazz "Poeth" ei hun. Ar ôl blynyddoedd o deithio, ymgartrefodd yn Queens, ac erbyn y 1950au, roedd yn eicon cerddorol cenedlaethol, gydag ymddangosiadau rheolaidd ar y radio ac mewn ffilm a theledu, yn ychwanegol at ei gyngherddau.

Gyda’i lais cyfoethog, graeanog y gellir ei adnabod ar unwaith, roedd Armstrong yn ganwr dylanwadol ac yn gerddor fyrfyfyr medrus, yn plygu geiriau ac alaw cân. Roedd hefyd yn fedrus wrth ganu sgat (canu gyda sŵn heb-eiriau go iawn, sillafau nonsens, ee trŵbl-dŵbl-dŵbl-dŵ-ai-o). Mae Armstrong yn enwog am ei bresenoldeb llwyfan carismatig a'i lais yn ogystal â'i chwarae trwmped. Erbyn diwedd oes Armstrong, roedd ei ddylanwad wedi lledu i gerddoriaeth boblogaidd yn gyffredinol. Armstrong oedd un o'r diddanwyr American- Affricanaidd poblogaidd cyntaf i "groesi drosodd" i boblogrwydd eang gyda chynulleidfaoedd gwyn (a rhyngwladol). Anaml y byddai’n gwleidyddoli ei hil yn gyhoeddus, er mawr siom i’w gyd Americanwyr Affricanaidd, ond cymerodd safiad a gafodd gyhoeddusrwydd eang am ei sylwadau ar argyfwng addysg Little Rock. Llwyddodd i gael mynediad at haenau uchaf cymdeithas America ar adeg pan oedd hyn yn anodd i ddynion du.

Disgograffi (rhannol)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilm teledu a radio[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddangosodd Armstrong mewn mwy na dwsin o ffilmiau Hollywood, fel arfer yn chwarae arweinydd band neu gerddor. Ei rôl fwyaf cyfarwydd oedd fel adroddwr /arweinydd band yn y High Society, sioe gerdd o 1956 gyda Bing Crosby, Grace Kelly, Frank Sinatra, a Celeste Holm. Mae'n ymddangos trwy gydol y ffilm, mae hefyd yn canu'r gân deitl yn ogystal â pherfformio deuawd gyda Crosby, "Now You Has Jazz". [16] Ym 1947, chwaraeodd ei hun yn y ffilm New Orleans gyferbyn â Billie Holiday, a groniclodd dranc ardal Storyville ac ecsodus cerddorion o New Orleans i Chicago. Yn ffilm 1959 The Five Pennies chwaraeodd ei hun, yn canu, a chwarae sawl rhif clasurol. Gyda Danny Kaye perfformiodd ddeuawd o When the Saints Go Marching In pan ddynwaredodd Kaye Armstrong. Roedd ganddo ran yn y ffilm The Glenn Miller Story ochr yn ochr â James Stewart.

Ym 1937, Armstrong oedd yr Americanwr Affricanaidd cyntaf i gynnal sioe radio a ddarlledwyd yn genedlaethol. [17] Ym 1969, roedd ganddo rôl cameo yn fersiwn ffilm Gene Kelly o Hello, Dolly! fel yr arweinydd band Louis. Canodd y gân deitl gyda'r actores Barbra Streisand. Ei recordiad unigol o "Helo, Dolly!" yw un o'i berfformiadau mwyaf adnabyddus. [18] Clywyd Armstrong ar raglenni radio fel The Story of Swing (1937) a This Is Jazz (1947), a gwnaeth ymddangosiadau teledu hefyd, yn enwedig yn y 1950au a’r 1960au, gan gynnwys ymddangosiadau ar The Tonight Show Starring Johnny Carson. [18]

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Armstrong yn briod 4 gwaith ei wragedd oedd:

  1. Daisy Parker (1918-1922)
  2. Lil Hardin Armstrong (1924-1938)
  3. Alpha Smith (1938-1942)
  4. Lucille Wilson (1942-1971)[19]

Ni fu plant o unrhyw un o briodasau Armstrong

Mabwysiabodd Armstrong a Daisy Parker bachgen tair oed, Clarence, yr oedd ei fam, cyfnither Armstrong, Flora, wedi marw yn fuan ar ôl esgor. Roedd gan Clarence Armstrong anhawsterau dysgu o ganlyniad i anaf i'w ben pan yn ifanc, a threuliodd Armstrong weddill ei oes yn gofalu amdano. [20]

Cafodd Armstrong merch o berthynas all briodasol gyda Lucille "Sweets" Preston dawnswraig yn y Cotton Club [21]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Armstrong o drawiad y galon yn Ninas Efrog Newydd mis cyn ei 70ain pen-blwydd, rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym Mynwent Flushing, Queens, Efrog Newydd

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Yn ôl Armstrong cafodd ei eni ar 4 Gorffennaf, 1900.[4] Er iddo farw ym 1971, nid tan ganol yr 1980au y darganfuwyd ei wir ddyddiad geni trwy ymchwil i gofnodion bedydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gary Giddins (2001). Satchmo: The Genius of Louis Armstrong. Da Capo. t. 21.
  2. Teachout (2009), pp. 26 - 27.
  3. Bergreen (1996), pp. 14–15.
  4. Teachout, Terry (2009). Pops: A Life of Louis Armstrong. Houghton Mifflin. t. 25. ISBN 978-0-15-101089-9.
  5. "When Is Louis Armstrong's Birthday?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 16, 2013. The Official Site of the Louis Armstrong House & Archives.
  6. Giddins (2001), pp. 22 - 23.
  7. Teachout, Terry (2009). Pops. Boston: Houghton Mifflin Harcourt. t. 30.
  8. Giddins (2001), pp. 22-23.
  9. Giddins (2001), p. 26.
  10. 10.0 10.1 Bergreen (1997), pp. 27, 57–60.
  11. Bergreen (1997), p.44.
  12. Current Biography 1944, pp. 15–17.
  13. Bergreen (1997), pp. 67–68.
  14. Bergreen (1997), pp. 70–72.
  15. Current Biography 1944. p. 16.
  16. "High Society (1956) - High Society Calpyso". Turner Classic Movies. Cyrchwyd November 24, 2020.
  17. Riccardi, Ricky (May 11, 2020). ""I'm Still Louis Armstrong–Colored": Louis Armstrong and the Civil Rights Era". Louis Armstrong House Museum. Louis Armstrong House. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 23, 2021. Cyrchwyd April 3, 2021.
  18. 18.0 18.1 Bergreen (1997), pp. 7–11.
  19. Thorne, J. O.; Collocott, T. C., gol. (1984). Chambers biographical dictionary. Caeredin: Chambers. ISBN 0-550-16010-8. OCLC 13665413.
  20. Giddins, Gary (16–22 April 2003). "Satchuated". Village Voice. Cyrchwyd 17 October 2007.
  21. Goddard, Jacqui (December 15, 2012). "Louis Armstrong's secret daughter revealed, 42 years after his death". The Daily Telegraph.