James Stewart (actor)
James Stewart | |
---|---|
Ganwyd | James Maitland Stewart 20 Mai 1908 Indiana |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1997 o trawiad ar y galon, ataliad y galon, emboledd ysgyfeiniol, thrombosis Beverly Hills |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, hedfanwr, actor ffilm, cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, person milwrol, actor llwyfan, bardd, actor llais, cyfarwyddwr ffilm, actor, llenor, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | It's a Wonderful Life, Vertigo, Rear Window, Rope, You Can't Take It With You, Mr. Smith Goes to Washington, The Philadelphia Story, The Man Who Shot Liberty Valance, Winchester '73, Harvey, Anatomy of a Murder, How The West Was Won, The Naked Spur, The Shootist, The Man Who Knew Too Much, Destry Rides Again, Broken Arrow, Bend of The River, Two Rode Together, The Man From Laramie, The Glenn Miller Story, The Shop Around The Corner, Shenandoah, Mr. Hobbs Takes a Vacation, The Far Country, The Rare Breed |
Arddull | y Gorllewin gwyllt, ffilm gyffro, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm ddrama, film noir, ffilm gomedi, ffilm ffantasi, ffilm am ddirgelwch, ffilm drosedd, ffilm llawn cyffro, ffilm ryfel, ffilm epig, crime drama film, ffilm ramantus, war drama, ffilm gyffrous am drosedd, ffilm antur |
Taldra | 191 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Alexander Maitland Stewart |
Mam | Elizabeth Ruth Stewart |
Priod | Gloria Hatrick McLean |
Gwobr/au | Croix de guerre 1939–1945, Y Groes am Hedfan Neilltuol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aer, Commendation Medal, Armed Forces Reserve Medal, Croix de guerre, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Silver Bear, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Medal Ymgyrch Ewropeaidd-Affricanaidd-Dwyrain Canol, Gwobr Golden Boot, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Ours d'or d'honneur |
llofnod | |
Actor o'r Unol Daleithiau oedd James Stewart (20 Mai 1908 – 2 Gorffennaf 1997). Roedd yn adnabyddus i'w ffrindiau a'i ffans fel Jimmy Stewart. Cafodd yrfa hir yn gwneud ffilmiau a daeth yn un o actorion mwyaf adnabyddus Hollywood. Gwyddai sut i bortreadu cymeriadau y gallai pobl gyffredin uniaethu â hwy yn hawdd, yn arbennig yn ei gomedïau. Daeth ei wyneb a'i lais cyfareddol yn un o eiconau ei gyfnod.
Cafodd ei eni yn Indiana, Pennsylvania ym 1908. Priododd Gloria Hatrick McLean ar 9 Awst 1949. Daeth i amlygrwydd fel actor comedi ac actor mewn ffimiau Western ddiwedd y 1930au a'r 1940au. Serenodd gyda rhai o actorion mwyaf y dydd, yn cynnwys Katharine Hepburn (The Philadelphia Story) a Marlene Dietrich (Destry Rides Again).
Cymerodd ei yrfa dro newydd pan gafodd ei ddewis gan y cyfarwyddwr Alfred Hitchcock i serennu mewn cyfres o ffilmiau arloesol fel Rope (1948), Vertigo (1958, gyda Kim Novak) a Rear Window (1954). Ystyrir yr olaf yn un o'i ffilmiau gorau. Ar ôl cyfnod y ffilmiau Hitchcock dychwelodd i fyd y Western a gwnaeth gyfres o ffilmiau nodedig gan gynnwys How the West Was Won (1962).
Ffilmiau (detholiad)
[golygu | golygu cod]- You Can't Take It With You (1938)
- Made For Each Other (1939)
- Mr. Smith Goes to Washington (1939)
- Destry Rides Again (1939)
- The Shop Around the Corner (1940)
- The Philadelphia Story (1940)
- It's a Wonderful Life (1946)
- Rope (1948)
- Harvey (1951)
- The Naked Spur (1953)
- Rear Window (1954)
- The Far Country (1954)
- Vertigo (1958)
- Anatomy of a Murder (1959)
- How the West Was Won (1962)
- The Man Who Shot Liberty Valance (1962)