Rear Window

Oddi ar Wicipedia
Rear Window

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Alfred Hitchcock
Ysgrifennwr Cornell Woolrich (stori)
John Michael Hayes
Serennu James Stewart
Grace Kelly
Wendell Corey
Thelma Ritter
Cerddoriaeth Franz Waxman
Sinematograffeg Robert Burks
Golygydd George Tomasini
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Pictures (1954-83)
Universal Studios(ers 1983)
USA Films (ail-ryddhad 2000)
Dyddiad rhyddhau 1 Awst 1954
Amser rhedeg 112 munud
Gwlad Unol Daleithiau America
Iaith Saesneg
Rear Window

Ffilm arloesol gan y cyfarwyddwr Alfred Hitchcock sy'n serennu James Stewart yw Rear Window (1954). Mae'r actorion eraill yn cynnwys Grace Kelly (cariad cymeriad Stewart) a Raymond Burr.

Dyma un o ffilmiau iasoer mwyaf cyfareddol ac arloesol Hitchcock. Cyfyngir y saethu i un stafell yn unig, lle ceir Stewart yn chwarae rhan ffotograffyd sydd mewn cadair olwyn oherwydd damwain. Fel sawl ffilm gan Hirchcock ceir elfen gref o voyeurism yn y ffilm, gyda Stewart yn gwylio bywyd personol pobl trwy ffenestri'r fflatiau cyfagos, pob un ohonynt yn ymagor ar fyd o gyfrinachau a drama annisgwyl.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.