Americanwyr Affricanaidd

Americanwyr o linach ddu Gorllewin Affricanaidd yw Americanwyr Affricanaidd a elwir hefyd yn Americanwyr Duon, Affro-Americanwyr, neu yn hanesyddol Negroaid Americanaidd. Mae'r mwyafrif ohonynt yn ddisgynyddion caethweision o oes caethwasiaeth yr Unol Daleithiau, ond mae eraill yn fewnfudwyr duon o Affrica, y Caribî, Canolbarth America, a De America neu yn ddisgynyddion mewnfudwyr o'r rhanbarthau hyn. Americanwyr Affricanaidd yw'r hil ail fwyaf yn yr Unol Daleithiau, ar ôl gwynion.
Mae hanes yr Americanwyr Affricanaidd yn agwedd bwysig o hanes yr Unol Daleithiau, sydd yn cynnwys y fasnach gaethweision, eu rhyddfreiniad yn ystod Rhyfel Cartref America, arwahanu hiliol trwy ddeddfau Jim Crow, y Mudiad Hawliau Sifil, ac etholiad Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2008.