Martin Luther King
Martin Luther King | |
---|---|
Llais | Martin Luther King, Jr. speaks about Barry Goldwater at a press conference at Amsterdam Airport Schiphol, August 1964 (audio from Polygoon).oga |
Ganwyd | Michael King Jr. 15 Ionawr 1929 Atlanta |
Bu farw | 4 Ebrill 1968 Memphis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gweinidog bugeiliol, pregethwr, ymgyrchydd hawliau sifil, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd heddwch, heddychwr, llenor, gwleidydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Reinhold Niebuhr, Howard Thurman, Walter Rauschenbusch, Henry David Thoreau, Mahatma Gandhi |
Dydd gŵyl | Martin Luther King Jr. Day |
Taldra | 168.9 centimetr |
Mudiad | mudiadau hawliau sifil, di-drais, undeb llafur yn UDA, mudiad Hawliau Sifil America |
Tad | Martin Luther King Sr. |
Mam | Alberta Williams King |
Priod | Coretta Scott King |
Plant | Yolanda King, Martin Luther King III, Dexter Scott King, Bernice King |
Perthnasau | Alveda King |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr Pacem in Terris, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Gwobrau Margaret Sanger, Person y Flwyddyn Time, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aur y Gyngres, Dyngarwr y Flwyddyn, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Spingarn, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra |
Gwefan | https://thekingcenter.org |
llofnod | |
Roedd Martin Luther King yr ieuengaf (15 Ionawr 1929 – 4 Ebrill 1968) yn weinidog ac actifydd Cristnogol o'r Unol Daleithiau a ddaeth yn llefarydd ac arweinydd mwyaf gweladwy'r Mudiad Hawliau Sifil o 1955 hyd at ei lofruddiaeth ym 1968. Mae King yn fwyaf adnabyddus am hyrwyddo hawliau sifil drwy ddulliau di-drais ac anufudd-dod sifil oedd wedi eu hysbrydoli gan ei gredoau Cristnogol a phrotestiadau di-drais Mahatma Gandhi.
Arweiniodd King foicot bysiau Montgomery yn 1955 ac yn ddiweddarach daeth yn llywydd cyntaf Cynhadledd Arweinyddiaeth Gristnogol y De (Southern Christian Leadership Conference). Fel llywydd y Gynhadledd, arweiniodd frwydr aflwyddiannus yn 1962 yn erbyn arwahanu yn Albany, Georgia, a helpodd i drefnu protestiadau di-drais 1963 yn Birmingham, Alabama. Bu hefyd yn cynorthwyo â threfniadau’r Orymdaith i Washington, ym mis Mawrth 1963, lle traddododd ei araith enwog Mae gen i freuddwyd (I have a dream) ar risiau Cofeb Lincoln.
Ar 14 Hydref 1964, enillodd King Wobr Heddwch Nobel am frwydro yn erbyn anghydraddoldeb hiliol drwy wrthwynebiad di-drais. Ym 1965, helpodd i drefnu'r gorymdeithiau o Selma i Montgomery. Yn ei flynyddoedd olaf, ehangodd ei ffocws i gynnwys gwrthwynebiad i dlodi, cyfalafiaeth, a Rhyfel Fietnam. Gwelwyd ef gan Gyfarwyddwr yr FBI, J. Edgar Hoover, yn unigolyn radical, a bu King yn destun trafod rhaglen gwrthgynhadledd yr FBI o 1963 ymlaen. Roedd King yn destun ymchwiliadau cyson i ysbïwyr yr FBI oherwydd ei gysylltiadau comiwnyddol honedig, a chofnodwyd ei berthnasau tu allan i'w briodas ac adroddwyd arnynt i swyddogion y llywodraeth. Ym 1964, derbyniodd King lythyr anhysbys bygythiol, a ddehonglwyd ganddo fel ymgais i wneud iddo gyflawni hunanladdiad.[1]
Pan gafodd ei lofruddio ar 4 Ebrill 1968, ym Memphis, Tennessee, roedd King yn trefnu ac yn cynllunio ‘meddiant cenedlaethol’ o Washington, D.C., a fyddai’n cael ei alw’n Ymgyrch y Bobl Dlawd. Yn dilyn ei farwolaeth, bu terfysgoedd yn llawer o ddinasoedd yr Unol Daleithiau. Parhaodd honiadau am ddegawdau ar ôl y saethu bod James Earl Ray, y dyn a gafwyd yn euog o ladd King, wedi cael ei fframio neu ei fod wedi gweithredu ar y cyd ag asiantaethau’r llywodraeth.
Wedi ei farwolaeth dyfarnwyd y Fedal Rhyddid Arlywyddol a’r Fedal Aur Gyngresol i King. Sefydlwyd Diwrnod Martin Luther King Jr. fel dydd gŵyl mewn dinasoedd a gwladwriaethau ledled yr Unol Daleithiau, gan ddechrau ym 1971; deddfwyd y gwyliau ar lefel ffederal gan ddeddfwriaeth a lofnodwyd gan yr Arlywydd Ronald Reagan ym 1986. Mae cannoedd o strydoedd yn yr Unol Daleithiau wedi cael eu hailenwi er anrhydedd iddo, ynghyd â sir yn Washington. Cysegrwyd Cofeb Martin Luther King Jr ar y Rhodfa Genedlaethol yn Washington D.C yn 2011.[2]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd King yn Michael King Jr. ar 15 Ionawr 1929, yn Atlanta, Georgia, yr ail o dri o blant i'r Parchedig Michael King Sr. ac Alberta King (Williams oedd ei chyfenw cyn priodi).[3] Ym 1934 aeth tad King ar daith o amgylch y byd gyda Chynghrair Bedyddwyr y Byd, gan gynnwys taith i Berlin lle daeth dan ddylanwad dysgeidiaeth arweinydd y Diwygiad Protestannaidd, Martin Luther.[4] Dychwelodd adref ym mis Awst 1934, ac yn yr un flwyddyn dechreuodd gyfeirio ato'i hun fel Martin Luther King Sr., a'i fab fel Martin Luther King Jr.[5] Newidiwyd tystysgrif geni King i ddarllen "Martin Luther King Jr." ar 23 Gorffennaf, 1957, pan oedd yn 28 oed.[6]
Yng nghartref ei blentyndod, byddai King, a’i frawd a’i chwaer, yn darllen y Beibl yn uchel yn unol â chyfarwyddyd eu tad. Gwelodd King fod ei dad yn sefyll yn erbyn arwahanu a gwahanol fathau o wahaniaethu. Unwaith, pan gafodd ei stopio gan heddwas a gyfeiriodd at King Sr. fel "boy", ymatebodd ei dad yn sydyn drwy ddweud bod King Jnr yn fachgen ond ei fod ef yn ddyn. Pan aeth tad King ag ef i mewn i siop esgidiau yn Atlanta, dywedodd y clerc wrthynt fod angen iddynt eistedd yn y cefn. Gwrthododd tad King, gan nodi "byddwn naill ai'n prynu esgidiau yn eistedd yma neu ni fyddwn yn prynu esgidiau o gwbl", cyn mynd â'i fab gydag ef a gadael y siop.[7]
Yn ystod ei ieuenctid, teimlai King ddrwgdeimlad yn erbyn pobl wyn oherwydd y "cywilydd hiliol" yr oedd yn rhaid iddo ef, ei deulu, a'i gymdogion ei ddioddef yn aml yn y De lle'r oedd arwahanu yn digwydd. Yn 1942, pan oedd King yn 13 mlwydd oed, daeth yn rheolwr cynorthwyol ieuengaf gorsaf ddosbarthu papur newydd yr Atlanta Journal. Y flwyddyn honno, hepgorwyd King rhag cwblhau’r nawfed radd a chofrestrwyd ef yn Ysgol Uwchradd Booker T. Washington. Yr ysgol uwchradd hon oedd yr unig un yn y ddinas ar gyfer myfyrwyr Americanaidd Affricanaidd. Fe’i ffurfiwyd ar ôl i arweinwyr du lleol, gan gynnwys taid King ar ochr ei fam, (Williams), annog llywodraeth dinas Atlanta i’w sefydlu. Daeth King yn adnabyddus am ei allu i siarad yn gyhoeddus ac roedd yn rhan o dîm dadlau'r ysgol.[8]
Pan oedd King yn yr ysgol uwchradd, cyhoeddodd Coleg Morehouse - coleg du uchel ei barch yn hanesyddol - y byddai'n derbyn unrhyw blentyn ysgol uwchradd a allai basio ei arholiadau mynediad. Bryd hynny, roedd llawer o fyfyrwyr wedi cefnu ar astudiaethau pellach i ymrestru yn yr Ail Ryfel Byd. Oherwydd hyn, roedd Morehouse yn awyddus i lenwi ei ystafelloedd dosbarth. Yn 15 oed, pasiodd King yr arholiad a mynd i Morehouse. Chwaraeodd bêl-droed glasfyfyrwyr yno. Yr haf cyn ei flwyddyn olaf yn Morehouse, ym 1947, dewisodd King, a oedd yn 18 oed ar y pryd, fynd i'r weinidogaeth. Drwy gydol ei gyfnod yn y coleg, astudiodd King o dan arolygiaeth llywydd y Coleg, sef gweinidog gyda’r Bedyddwyr, Benjamin Mays. Yn ddiweddarach, rhoddodd King deyrnged iddo am fod yn “fentor ysbrydol iddo.”[9] Graddiodd King o Morehouse gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau (BA) mewn Cymdeithaseg ym 1948 pan oedd yn bedair ar bymtheg oed.
Cofrestrodd King yng Ngholeg Diwinyddol Crozer yn Upland, Pennsylvania, ac ym 1951[10] dechreuodd astudiaethau doethuriaeth mewn diwinyddiaeth systematig ym Mhrifysgol Boston.[11] Tra’n dilyn astudiaethau doethuriaeth, bu King yn gweithio fel gweinidog cynorthwyol yn Neuddegfed Eglwys y Bedyddwyr, sef eglwys hanesyddol Boston, gyda'r Parchedig William Hunter Hester. Roedd Hester yn hen ffrind i dad Martin Luther King, a bu’n ddylanwad pwysig arno.
Priododd King â Coretta Scott ar Fehefin 18, 1953, ar lawnt tŷ ei rhieni yn ei thref enedigol yn Heiberger, Alabama.[12] Daethant yn rhieni i bedwar o blant: Yolanda King (1955-2007), Martin Luther King III (g. 1957), Dexter Scott King (g. 1961), a Bernice King (g. 1963). Yn ystod eu priodas, cyfyngodd King rôl Coretta yn y mudiad hawliau sifil, gan ddisgwyl iddi fod yn wraig tŷ ac yn fam.[13]
Protestio ac ymgyrchu
[golygu | golygu cod]Boicot y Bysus, Montgomery, 1955
[golygu | golygu cod]Ym mis Mawrth 1955, gwrthododd Claudette Colvin - merch ysgol ddu bymtheg oed yn Montgomery - ildio ei sedd fws i ddyn gwyn. Roedd gweithred felly yn groes i gyfreithiau Jim Crow, deddfau cyffredin yn nhaleithiau deheuol America a oedd yn gorfodi arwahanu hiliol. Roedd King ar bwyllgor Affricanaidd-Americanaidd cymuned Birmingham a fu’n ymchwilio i'r achos. Penderfynodd E. D. Nixon a Clifford Durr aros am achos gwell i fynd ar ei drywydd oherwydd bod y digwyddiad yn cynnwys plentyn dan oed.
Naw mis yn ddiweddarach ar 1 Rhagfyr, 1955, bu digwyddiad tebyg pan arestiwyd Rosa Parks am wrthod ildio ei sedd ar fws dinas.[14] Arweiniodd y ddau ddigwyddiad at foicot bysus Montgomery, a gafodd ei annog a'i gynllunio gan Nixon a'i arwain gan King. Parhaodd y boicot am 385 diwrnod,[15] a throdd y sefyllfa mor ddwys fel bod tŷ King wedi cael ei fomio.[16] Arestiwyd King yn ystod yr ymgyrch, a ddaeth i ben yn y diwedd gyda dyfarniad Llys Dosbarth yr Unol Daleithiau yn Browder v. Gayle. Penderfyniad y dyfarniad oedd dod â gwahanu hiliol i ben ar holl fysus cyhoeddus Montgomery. Yn sgil Boicot y Bysus trawsnewidiwyd rôl King i fod yn ffigwr cenedlaethol ac yn llefarydd mwyaf adnabyddus y Mudiad Hawliau Sifil.[17]
SCLC
[golygu | golygu cod]Ym 1957, sefydlodd King, Ralph Abernathy, Fred Shuttlesworth, Joseph Lowery, ac actifyddion hawliau sifil eraill Gynhadledd Arweinyddiaeth Gristnogol y De (SCLC). Cafodd y grŵp ei greu er mwyn harneisio awdurdod moesol a grym trefnu'r eglwysi duon er mwyn cynnal protestiadau di-drais fyddai’n hyrwyddo ymgyrchoedd a diwygiadau hawliau sifil. Ysbrydolwyd y grŵp gan yr efengylwr Billy Graham, a oedd yn gyfaill i King, yn ogystal â threfniant cenedlaethol y grŵp, In Friendship, oedd wedi cael ei sefydlu gan Stanley Levison ac Ella Baker, rhai o gefnogwyr King.[18] Arweiniodd King y SCLC hyd at ei farwolaeth.[19] Achlysur ‘Pererindod Gweddi dros Ryddid’ yr SCLC yn 1957 oedd y tro cyntaf i King annerch cynulleidfa genedlaethol.[20]
Yr Orymdaith i Washington, 1963
[golygu | golygu cod]Roedd King, a oedd yn cynrychioli'r SCLC, ymhlith arweinwyr sefydliadau hawliau sifil y "Big Six", a oedd yn allweddol yn nhrefniadaeth yr ‘Orymdaith i Washington ar gyfer Swyddi a Rhyddid’, a gynhaliwyd ar 28 Awst 1963. Ymateb cychwynnol yr Arlywydd Kennedy i'r orymdaith oedd ei wrthwynebu’n llwyr, oherwydd ei fod yn pryderu y byddai'n cael effaith negyddol ar yr ymgyrch i basio deddfwriaeth hawliau sifil. Fodd bynnag, roedd y trefnwyr yn bendant y byddai'r orymdaith yn mynd yn ei blaen.[21] Ar sail hynny, penderfynodd y Kennedys ei bod yn bwysig gweithio i sicrhau ei lwyddiant. Roedd yr Arlywydd Kennedy yn pryderu y byddai'r nifer a fyddai’n mynychu’r orymdaith yn llai na 100,000. Felly, aethpwyd ati i ddenu cymorth ychwanegol oddi wrth arweinyddion eglwysig eraill. Cafwyd cymorth hefyd oddi wrth Walter Reuther, Arlywydd Gweithwyr Moduron Unedig, wrth ymfyddino cefnogwyr ar gyfer yr achos.[22]
Roedd gan yr orymdaith ofynion penodol:
- Diwedd ar wahanu hiliol mewn ysgolion cyhoeddus
- Deddfwriaeth hawliau sifil ystyrlon, gan gynnwys deddf oedd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil mewn cyflogaeth
- Amddiffyn gweithwyr hawliau sifil rhag creulondeb yr heddlu
- Isafswm cyflog o $2 i holl weithwyr UDA (sy'n cyfateb i $17 yn 2019)
- Hunanlywodraeth i Washington, D.C., oedd yn cael ei lywodraethu gan bwyllgor cyngresol ar y pryd.[23]
Er gwaethaf y tensiynau, roedd yr orymdaith yn llwyddiant ysgubol. Daeth mwy na chwarter miliwn o bobl o ethnigrwydd amrywiol i'r digwyddiad, gyda’r gynulleidfa yn ymledu o risiau Cofeb Lincoln i'r Rhodfa Genedlaethol ac o amgylch y Pwll Adlewyrchu. Ar y pryd, hwn oedd y cyfarfod mwyaf o brotestwyr yn hanes Washington D.C.[24]
Siaradodd King â'r dorf o risiau Cofeb Lincoln yn ystod yr Orymdaith i Washington. Hon oedd araith enwog King oedd yn cynnwys y geiriau "I have a dream". Yn yr araith roedd King mynnu cydraddoldeb hiliol a diwedd ar wahaniaethu yn yr Unol Daleithiau. Roedd dros 200,000 o gefnogwyr hawliau sifil yn y gynulleidfa[25].
Mae'r araith yn cyfeirio at Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau: "Mae gen i freuddwyd y gwelaf y genedl hon yn codi ryw ddydd i fyw yr hyn a ddywed un o erthyglau ei chyfansoddiad: 'Daliwn fod y gwirionedd hwn yn eglur, fod pob dyn yn gydradd'."
Yn ogystal, mewn darn adnabyddus o'r araith mae King yn cyfeirio at ei blant: "Mae gen i freuddwyd y bydd fy mhedwar plentyn yn medru byw, ryw ddydd, fel rhan o genedl lle bydd cymeriad yn bwysicach na lliw croen."[26].
Gwrthwynebiad i Ryfel Fietnam
[golygu | golygu cod]Roedd King wedi gwrthwynebu rôl America yn Rhyfel Fietnam[27] ers peth amser, ond ar y dechrau roedd wedi ceisio osgoi'r pwnc mewn areithiau cyhoeddus. Gwnaeth hyn er mwyn osgoi gwrthdaro â nodau hawliau sifil y gallai beirniadaeth o bolisïau'r Arlywydd Johnson fod wedi eu creu. Ar anogaeth cyn-Gyfarwyddwr Gweithredu Uniongyrchol SCLC, a oedd bellach yn bennaeth Pwyllgor Symudiad y Gwanwyn i Ddiweddu’r Rhyfel yn Fietnam, sef James Bevel, ac wedi ei ysbrydoli gan barodrwydd Muhammad Ali i fynegi ei farn ar y mater,[28] penderfynodd King yn y pen draw bod angen iddo ddatgan ei wrthwynebiad i’r rhyfel yn gyhoeddus. Digwyddodd hyn ar yr adeg roedd gwrthwynebiad tuag at y rhyfel yn cynyddu ymhlith y cyhoedd yn America.[27]
Ymgyrch y Bobl Dlawd, 1968
[golygu | golygu cod]Ym 1968, trefnodd King a'r SCLC "Ymgyrch y Bobl Dlawd" i fynd i'r afael â materion cyfiawnder economaidd. Teithiodd King ar hyd y wlad i gasglu ynghyd "byddin aml-grefyddol y tlawd" a fyddai'n gorymdeithio i Washington i gymryd rhan mewn anufudd-dod sifil di-drais, ger Adeilad y Capitol nes byddai’r Gyngres yn creu "bil hawliau economaidd" i Americanwyr tlawd.[29]
Rhagflaenwyd yr ymgyrch gan lyfr olaf King, ‘Where Do We Go from Here: Chaos or Community?’, lle amlinellodd ei farn ar sut i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a thlodi. Dyfynnodd King lyfr Henry George a George, ‘Progress and Poverty’, yn enwedig wrth gefnogi’r ddadl dros warantu incwm sylfaenol. Penllanw'r ymgyrch oedd yr Orymdaith i Washington D.C., lle mynnwyd bod angen cymorth economaidd ar gymunedau tlotaf yr Unol Daleithiau.[30]
Gweledigaeth King oedd creu newid a oedd yn fwy chwyldroadol na diwygio yn unig: cyfeiriodd at ddiffygion systematig o "hiliaeth, tlodi, militariaeth a materoliaeth", a dadleuodd mai "ailadeiladu cymdeithas ei hun yw'r gwir fater i'w wynebu."[31]
Roedd Ymgyrch y Bobl Dlawd yn ddadleuol hyd yn oed o fewn y Mudiad Hawliau Sifil. Ymddiswyddodd Rustin o’r orymdaith, gan nodi bod nodau’r ymgyrch yn rhy eang, bod ei gofynion yn afrealistig, a’i fod yn credu y byddai’r ymgyrchoedd hyn yn cyflymu’r adwaith a’r gormes ar y tlawd a phobl dduon.
Llofruddiaeth a’r canlyniadau
[golygu | golygu cod]Ar 29 Mawrth 1968, aeth King i Memphis, Tennessee, i gefnogi gweithwyr du oedd yn glanhau gweithfeydd cyhoeddus iechydol. Cynrychiolwyd hwy gan AFSCME Local 1733. Roedd y gweithwyr wedi bod ar streic ers 12 Mawrth am gyflogau uwch a thriniaeth well. Mewn un digwyddiad, derbyniodd atgyweirwyr stryd du eu croen dâl am ddwy awr pan gawsant eu hanfon adref oherwydd tywydd gwael, ond talwyd gweithwyr gwyn am y diwrnod llawn.[32]
Ar Ebrill 3, anerchodd King rali a thraddododd ei anerchiad Rwyf wedi bod i ben y mynydd (I've Been to the Mountaintop) yn Nheml Mason, pencadlys byd-eang Eglwys Duw yng Nghrist.
Saethwyd King yn angheuol gan James Earl Ray am 6:01 yr hwyr ar 4 Ebrill 1968, wrth iddo sefyll ar falconi ail lawr ei westy. Arweiniodd y llofruddiaeth at don o derfysgoedd hil yn Washington D.C., Chicago, Baltimore, Louisville, Kansas City, a dwsinau o ddinasoedd eraill.[33] Roedd ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, sef Robert F. Kennedy, ar ei ffordd i Indianapolis ar y pryd ar gyfer rali ymgyrchu pan gafodd wybod am farwolaeth King. Traddododd araith fer, fyrfyfyr i gynulleidfa o gefnogwyr a rhoi gwybod iddynt am y drasiedi a'u hannog i barhau â delfrydau King, sef protestio di-drais. Y diwrnod canlynol, siaradodd yn Cleveland. Galwodd James Farmer Jr, ac arweinwyr hawliau sifil eraill hefyd, am weithredu di-drais, tra bod Stokely Carmichael, oedd yn ffigwr mwy milwriaethus, wedi galw am ymateb mwy grymus.[34]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- T. J. Davies, Martin Luther King (Abertawe: Gwasg John Penry, 1969)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Theoharis, Athan G. (1999). The FBI : a comprehensive reference guide. Internet Archive. Phoenix, Ariz. : Oryx Press. ISBN 978-0-585-09871-5.
- ↑ Tavernise, Sabrina (2011-08-22). "A Dream Fulfilled, Martin Luther King Memorial Opens". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Visit the Martin Luther King, Jr. National Memorial". TripSavvy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "1968: Martin Luther King shot dead" (yn Saesneg). 1968-04-04. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Mission & Vision - Build the Dream". web.archive.org. 2011-09-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-16. Cyrchwyd 2020-09-10.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Posner, Gerald (2013-04-16). Killing the Dream: James Earl Ray and the Assassination of Martin Luther King, Jr (yn Saesneg). Open Road Media. ISBN 978-1-4804-1227-9.
- ↑ "'I Have a Dream' holds 5 lessons for speechwriters - Ragan Communications". Ragan Communications (yn Saesneg). 2012-01-20. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Quotations from Inscription Wall of Martin Luther King Jr. Memorial | Demotix.com". web.archive.org. 2012-01-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-28. Cyrchwyd 2020-09-10.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Obama, MLK Memorial Wrong on 'Arc' Quote". Newsmax. 2011-08-26. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Staff, By CNN. "Controversial MLK Memorial inscription to be removed". CNN. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Ruane, Michael E. (2011-08-04). "Obama to speak at King memorial dedication in D.C." Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Text". web.archive.org. 2007-09-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Facebook; Twitter; options, Show more sharing; Facebook; Twitter; LinkedIn; Email; URLCopied!, Copy Link; Print (2009-04-22). "King for sale". Los Angeles Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "After long struggle, MLK has home on National Mall". Associated Press (yn Saesneg). 2015-03-25. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Ruane, Michael E. (2009-10-27). "Construction of MLK memorial on the Mall poised to begin" (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Chinese master sculptor to produce MLK memorial carving - Build the Dream". web.archive.org. 2012-03-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-05. Cyrchwyd 2020-09-10.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Ann Lau on Human Rights & Martin Luther King Jr. on National Review Online". web.archive.org. 2007-12-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-23. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Button: Event Raised Profile of MLK Protest | www.ourherald.com | Randolph Herald". web.archive.org. 2012-04-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-01. Cyrchwyd 2020-09-10.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Shin, Annys (2010-11-23). "As Chinese workers build the Martin Luther King memorial, a union investigates" (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "History of the Memorial - Build the Dream". web.archive.org. 2007-10-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-10. Cyrchwyd 2020-09-10.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Rosenberg, Jonathan; Karabell, Zachary (2003). Kennedy, Johnson, and the quest for justice : the civil rights tapes. Internet Archive. New York : W.W. Norton. ISBN 978-0-393-05122-3.
- ↑ Schlesinger, Arthur M. (1979). Robert Kennedy and his times. Internet Archive. New York : Ballantine Books. ISBN 978-0-345-28344-3.
- ↑ Bennett, Scott H. (2003). Radical pacifism : the War Resisters League and Gandhian nonviolence in America, 1915-1963 (arg. 1st ed). Syracuse, N.Y.: Syracuse University Press. ISBN 0-8156-3003-4. OCLC 52943193.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ Powers, Roger S.; Vogele, William B.; Kruegler, Christopher; McCarthy, Ronald M. (1997). Protest, power, and change : an encyclopedia of nonviolent action from ACT-UP to women's suffrage. Internet Archive. New York : Garland Pub. ISBN 978-0-8153-0913-0.
- ↑ Hansen, D, D. (2003). The Dream: Martin Luther King, Jr., and the Speech that Inspired a Nation. Efrog Newydd, UDA: Harper Collins. t. 177.
- ↑ Davies, T.J. (1969). Martin Luther King. Abertawe: Gwasg John Penry. t. 138.
- ↑ 27.0 27.1 "The 11 Most Anti-Capitalist Quotes from Martin Luther King Jr". Common Dreams (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ The sixties chronicle. Cronkite, Walter,, Hayden, Tom,, Farber, David R.,, Edmonds, Anthony O.,, Braunstein, Peter,. Lincolnwood, Ill.: Legacy. 2004. ISBN 1-4127-1009-X. OCLC 57487610.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: others (link)
- ↑ "Martin Luther King, Letter of Martin Luther King to nominate Thich Nhat Hanh for the Nobel Peace Prize". www.hartford-hwp.com. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "Martin Luther King - Final Advice - The Progress Report". web.archive.org. 2015-02-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-04. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Yglesias, Matthew (2013-08-28). "Martin Luther King's Case for a Guaranteed Basic Income". Slate Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "AFSCME - 1,300 Members Participate in Memphis Garbage Strike (February, 1968)". web.archive.org. 2006-11-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-11-02. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ "1968: Martin Luther King shot dead" (yn Saesneg). 1968-04-04. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Newfield, Jack (1988). Robert Kennedy : a memoir. Internet Archive. New York : New American Library. ISBN 978-0-452-26064-1.