Henry David Thoreau
| Henry David Thoreau | |
|---|---|
|
| |
| Ganwyd |
David Henry Thoreau 12 Gorffennaf 1817 Wheeler-Minot Farmhouse |
| Bu farw |
6 Mai 1862 Achos: Diciâu Concord, Massachusetts |
| Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth |
Bardd, athronydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, dyddiadurwr, cyfieithydd, Ysgrifennwr, diddymwr caethwasiaeth, Awdur |
| Adnabyddus am |
Walden, Civil Disobedience |
| Arddull |
Transcendentalism |
| Prif ddylanwad |
Ralph Waldo Emerson |
| Llofnod | |
|
| |
Traethodydd ac athronydd o'r Unol Daleithiau oedd Henry David Thoreau (12 Gorffennaf 1817 – 6 Mai 1862).[1][2]
Roedd yn gyfaill agos i brif aelodau'r mudiad trosgynoliaeth. Dylanwadwyd arno gan Ralph Waldo Emerson, a roddodd fenthyg gaban i Thoreau, wrth ymyl Walden Pond yn Concord, Massachusetts. Ysbrydolodd Thoreau gan ei arhosiad yno a disgrifiodd hynny yn ei lyfr Walden (1854), ei waith mwyaf adnabyddus, sy'n bennaf yn fyfyrdod ar fyw'n syml mewn amgylchedd naturiol.
Gwaith pwysig arall yw traethawd Thoreau "Civil Disobedience" ("Anufudd-dod Sifil", 1849), sy'n dadlau bod gan unigolyn ddyletswydd i wrthwynebu gweithredoedd anghyfiawn llywodraeth sifil. Dylanwadodd ei athroniaeth ynghylch anufudd-dod sifil ar feddyliau a gweithredoedd ffigurau nodedig o'r fath fel Leo Tolstoy, Mahatma Gandhi, a Martin Luther King.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Howe, Daniel Walker, What Hath God Wrought: The Transformation of America, 1815–1848. ISBN 978-0-19-507894-7, tud. 623.
- ↑ Thoreau, Henry David. A Week on the Concord and Merrimack Rivers / Walden / The Maine Woods / Cape Cod. Library of America. ISBN 0-940450-27-5.
|