Thomas Carlyle
Thomas Carlyle | |
---|---|
![]() Ffotograff o Thomas Carlyle, tua'r 1860au. | |
Ganwyd |
4 Rhagfyr 1795 ![]() Ecclefechan ![]() |
Bu farw |
5 Chwefror 1881 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
ieithydd, hanesydd llenyddiaeth, hanesydd, cyfieithydd, mathemategydd, athronydd, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, nofelydd, athro ![]() |
Swydd |
Rector of the University of Edinburgh ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
Sartor Resartus, On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History ![]() |
Priod |
Jane Welsh Carlyle ![]() |
Gwobr/au |
Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a gwyddoniaeth America ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Hanesydd, traethodydd, a bywgraffydd Albanaidd oedd Thomas Carlyle (4 Rhagfyr 1795 – 5 Chwefror 1881). Efe oedd prif feirniad diwylliannol yr oes Fictoriaidd, a dylanwadodd ar nifer o feirniad iau y cyfnod, gan gynnwys Matthew Arnold a John Ruskin. Dadleuodd o blaid arweinyddiaeth dadol a chryfder yr arwr, gan feirniadu damcaniaeth laissez-faire a llywodraeth seneddol. Mae ganddo arddull hynod o nodweddiadol: "cyfuniad o ymadroddion beiblaidd, geiriau gwerin, ystumiadau Tiwtonaidd, a bathiadau ei hunan, yn nhrefn yr annisgwyl".[1]
Ganwyd yn Ecclefechan, Swydd Dumfries, i deulu mawr o Galfiniaid. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Annan a Phrifysgol Caeredin, ac yno ymddisgleiriodd ym maes mathemateg. Cychwynnodd ar ei yrfa yn diwtor, ysgolfeistr, a newyddiadurwr. Darllenodd lyfr Germaine de Staël ar yr Almaen, gan fagu ynddo ddiddordeb yn llenyddiaeth ac athroniaeth Almaenig. Ymhlith ei weithiau cynnar mae Life of Schiller (1823) a'i gyfieithiad o Wilhelm Meister (1824) gan Goethe.
Priododd Jane Baillie Welsh ym 1826. Cyhoeddodd ei hunangofiant ysbrydol, Sartor Resartus, yng nghylchgrawn Fraser's ym 1833–34, cyn iddo symud i fyw yn Llundain. Ysgrifennodd hanes y Chwyldro Ffrengig (1837), traethawd ar Siartiaeth (1839), casgliad o'i ddarlithoedd dan y teitl On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History (1841), golygiad o lythyrau ac areithiau Cromwell (1845), a bywgraffiad Ffredrig Fawr (1858–65).
Bu farw ei wraig ym 1866, ac ar ddiwedd ei fywyd cafodd Carlyle ei weld yn broffwyd hen ffasiwn. Claddwd ym Mynwent Ecclefechan.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) "Carlyle, Thomas" yn The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (Gwasg Prifysgol Columbia). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Medi 2017.
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ashton, Rosemary. Thomas and Jane Carlyle: Portrait of a Marriage (2002).
- Campbell, Ian. Thomas Carlyle (1974)
- Cumming, Mark, gol. Carlyle Encyclopedia (2004).
- Heffer, Simon. Moral Desperado: A Life of Thomas Carlyle (1995).
- Kaplan, Fred. Thomas Carlyle: A Biography (1983).