Germaine de Staël

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Germaine de Staël
Marie Eléonore Godefroid - Portrait of Mme de Staël.jpg
Ynganiad LL-Q150 (fra)-Fhala.K-Germaine de Staël.wav Edit this on Wikidata
Ganwyd Anne-Louise Germaine Necker Edit this on Wikidata
22 Ebrill 1766 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Gorffennaf 1817 Edit this on Wikidata (51 oed)
Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gweriniaeth Genefa, Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, perchennog salon, dyddiadurwr, beirniad llenyddol, Gwleidydd, gohebydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Q18633317, Q3693562 Edit this on Wikidata
Tad Jacques Necker Edit this on Wikidata
Mam Suzanne Curchod Edit this on Wikidata
Priod Erik Magnus Staël von Holstein, Albert Jean Michel de Rocca Edit this on Wikidata
Partner Benjamin Constant Edit this on Wikidata
Plant Albertine, baroness Staël von Holstein, Auguste-Louis de Staël-Holstein, Louis Alphonse de Rocca Edit this on Wikidata
Llofnod
Germaine de Staël signature.png
Portread o Germaine de Staël gan François Gérard, tua 1810.

Nofelydd, athronydd, ac hanesydd Ffrengig oedd Anne Louise Germaine, baronne de Staël-Holstein (ganwyd Anne Louis Germaine Necker; 22 Ebrill 1766 – 14 Gorffennaf 1817) a elwir yn aml yn Madame de Staël. Trwy ei brwdfrydedd dros Ramantiaeth Almaenig a'i phwyslais ar hanes syniadau, cafodd ddylanwad ar athroniaeth Ewrop, a Ffrainc yn enwedig yn ystod y cyfnodau chwyldroadol a Napoleonig. Y bont rhwng yr Oleuedigaeth a'r mudiad Rhamantaidd yw'r ddelwedd draddodiadol o'i gwaith. Canolbwyntia'r astudiaethau diweddar amdani ar ei phwysigrwydd fel llenores a meddylwraig gwreiddiol a lwyddodd i godi uchlaw'r cyfyngiadau a orfodwyd ar ferched yn ystod ei hoes.[1]

Ganwyd ym Mharis i rieni Swisaidd Protestannaidd. Priododd y Barwn Staël-Holstein, diplomydd Swedaidd, ym 1786. Gadawodd Ffrainc ym 1792 yn ystod yr oes chwyldroadol, ond dychwelodd dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth. Cynhaliodd salon ym Mharis a fu'n ganolfan i ddeallusion a gwleidyddion o fri, ac yno enillodd enw i'w hunan fel ymddiddanwraig ffraeth. Yn ddiweddarach gwahanodd o'i gŵr a daeth yn glos i Benjamin Constant.

Ysgrifennodd ddwy nofel a ellir eu hystyried yn "rhag-ffeministaidd": Delphine (1802) a Corinne (1807). O ganlyniad i'w gwrthwynebiad i Napoleon Bonaparte bu'n rhaid iddi adael Paris ym 1803. Cyhoeddodd hefyd sawl traethawd ar athroniaeth gymdeithasol ac estheteg, ac hefyd y dair chyfrol De l'Allemagne (1810) yn sgil ei thaith drwy'r Almaen. Cafodd argraffiad cyntaf y gwaith hwnnw ei ddinistrio ar orchymyn Napoleon, gan iddo ei ystyried yn "wrth-Ffrengig".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "Germaine De Staël" yn yr Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Medi 2017.