Neidio i'r cynnwys

Benjamin Constant

Oddi ar Wicipedia
Benjamin Constant
GanwydHenri-Benjamin Constant de Rebecque Edit this on Wikidata
25 Hydref 1767 Edit this on Wikidata
Lausanne Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 1830 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, gwleidydd, ysgrifennwr, dyddiadurwr, gwyddonydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Chambre des députés des départements, Member of the Chambre des députés des départements, Member of the Chambre des députés des départements, Member of the Chamber of Deputies Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAdolphe Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
MudiadRhyddfrydiaeth, Rhamantiaeth Edit this on Wikidata
PriodCharlotte de Constant de Rebecque (1769-1845) Edit this on Wikidata
PartnerGermaine de Staël Edit this on Wikidata

Nofelydd a llenor gwleidyddol Ffrengig oedd Henri-Benjamin Constant de Rebecque (25 Hydref 17678 Rhagfyr 1830).[1]

Ganwyd yn Lausanne yn y Swistir, i dad o dras Ffrengig. Mynychodd prifysgolion Erlangen a Chaeredin.

Mae ei waith hunangofiannol Adolphe (1816) yn rhagflaenydd i'r nofel seicolegol fodern. Fe gafodd berthynas â Germaine de Staël, ac roedd y ddau ohonynt yn gwrthwynebu Napoleon Bonaparte.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Henri-Benjamin Constant de Rebecque yn Lausanne, ar lannau gogleddol Llyn Genefa, yng ngorllewin hen Gydffederasiwn y Swistir. Merch o hen deulu Protestannaidd a wnaeth ffoi i Vaud oedd ei fam, a fu farw wedi iddi esgor arno. Cyrnol mewn catrawd Swisaidd, a fu'n gwasanaethu'r Iseldiroedd, oedd ei dad Juste. Aeth i Brifysgol Erlangen ym Mafaria yn 1782–3 cyn iddo astudio ym Mhrifysgol Caeredin yn 1783–5, lle'r oedd yn aelod gweithgar o'r Speculative Society a dylanwadwyd arno'n gryf gan syniadau'r Oleuedigaeth Albanaidd a'r economegwyr gwleidyddol.[2]

Cyfnod yn Brunswick a'i berthynas â de Staël

[golygu | golygu cod]

Aeth i Baris yn 1785–6, a bu'n byw yn nhŷ'r cylchgronwr a beirniad Jean-Baptiste-Antoine Suard. Dychwelodd i Lausanne yn 1786, ac yn 1788 cymerodd swydd Gwrda'r Siambr yn llys Charles William Ferdinand, Dug Brunswick-Wolfenbüttel, yng ngogledd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yno fe briododd y Farwnes Wilhelmina von Cramm, un o foneddigesau preswyl y llys, yn 1789. Gadawodd y swydd yn 1794, dwy flynedd wedi cychwyn Rhyfel y Glymblaid Gyntaf. Methiant a fu ei briodas, felly dychwelodd Constant i'r Swistir.[2]

Ym Medi 1794, cyfarfu Constant â Germaine de Staël. Magodd berthynas â'r llenores, a symudodd y pâr i Baris ym Mai 1795. Mae'n debyg taw Constant oedd yn dad i ferch de Staël, Albertine (1797–1838), a anwyd pan oedd hi'n briod i Erik Magnus Staël von Holstein, cyn-lysgennad Sweden i Ffrainc. Yn 1794, prynodd Constant Abaty Hérivaux yn Luzarches, ger Coedwig Chantilly, er mwyn iddo ennill dinasyddiaeth Ffrengig. Fel Ffrancwr o'i wirfodd, dadleuodd Constant o blaid gwerthoedd y Chwyldro Ffrengig.[2]

Gyrfa wleidyddol gynnar ac alltudiaeth

[golygu | golygu cod]

Ar droad y ganrif, daeth Constant dan nawdd y gwleidydd Emmanuel-Joseph Sieyès. Etholwyd Constant i'r Dribiwniaeth yn Ionawr 1800. Dadleuodd yn gyson o blaid rhyddid mynegiant, ac o ganlyniad cafodd ei ddiswyddo gan Napoleon Bonaparte yn 1802. Treuliodd y cyfnod 1802–14 mewn alltudiaeth gyda de Staël, ar ei hystâd deuluol yn Coppet, ger Genefa, yn Weimar (1803–4), ac yn Göttingen, Brunswick a Hanover (1812–13). Priododd Charlotte von Hardenberg yn 1808, er iddo barhau'n agos i de Staël nes 1811.[2]

Diwedd ei oes

[golygu | golygu cod]

Symudodd Constant yn ôl i Ffrainc yn 1814 yn sgil yr Adferiad Bourbonaidd, ac yno fe fu'n byw am weddill ei oes, heblaw am flwyddyn a hanner yn Llundain o 1816 i 1817. Gwasanaethodd yn ddirprwy dros sawl etholaeth yn y cyfnodau 1819–22 a 1824–30. Dadleuodd yn gyhoeddus o blaid rhyddid y wasg, diddymu'r fasnach gaethweision, ac annibyniaeth Gwlad Groeg oddi ar Ymerodraeth yr Otomaniaid. Bu farw ym Mharis yn 63 oed yn 1830, rhyw pedwar mis ar ôl cwymp y frenhiniaeth Bourbonaidd yn Chwyldro'r Gorffennaf.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Benjamin Constant. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2017.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gregory Claeys (gol.), Encyclopedia of Nineteenth-Century Thought (Llundain: Routledge, 2005), tt. 138–40.