Billy Graham
Gwedd
| Billy Graham | |
|---|---|
| Ganwyd | William Franklin Graham Jr. 7 Tachwedd 1918 Charlotte |
| Bu farw | 21 Chwefror 2018 Montreat |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gweinidog bugeiliol, diwinydd, pregethwr, hunangofiannydd, gweinidog yr Efengyl |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
| Priod | Ruth Graham |
| Plant | Franklin Graham, Anne Graham Lotz, Gigi Graham |
| Perthnasau | L. Nelson Bell, Will Graham, Tullian Tchividjian |
| Gwobr/au | KBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Oriel Anfarwolion Cerddoriaeth yr Efengyl, Gwobr Templeton, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Horatio Alger, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Urdd Dyngarol Achubiaeth Affrica, Golden Plate Award |
| llofnod | |
Efengylydd Cristnogol o'r Unol Daleithiau oedd William Franklin Graham, Jr. OBE, a adnabyddwyd fel Billy Graham (7 Tachwedd 1918 – 21 Chwefror 2018). Rhoddodd cyngor ysbrydol i sawl Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe ddaeth yn seithfed ar restr Gallup o'r bobl gafodd eu hedmygu fwyaf yn ystod yr 20g. Roedd yn perthyn i enwad Bedyddwyr y De.
Dywedir bod Graham wedi pregethu'n fyw i fwy o bobl o amgylch y byd nag unrhyw un arall erioed. Hyd at 1993, roedd mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi ymateb i'w apel yn ei ymgyrchoedd i "dderbyn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol". Hyd at 2002, roedd ei gynulleidfa gydol oes, gan gynnwys darllediadau radio a theledu, wedi cynyddu i dros 2,000 miliwn.
Bu farw yn 99 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr efengylwr, Billy Graham wedi marw , Golwg360, 21 Chwefror 2018.