Rosa Parks
Rosa Parks | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
4 Chwefror 1913 ![]() Tuskegee ![]() |
Bu farw |
24 Hydref 2005 ![]() Detroit ![]() |
Man preswyl |
Detroit ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
person cyhoeddus ![]() |
Gwobr/au |
'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ymgyrchydd hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau oedd Rosa Parks (4 Chwefror 1913 – 24 Hydref 2005).
Ganed Rosa Parks fel Rosa Louise McCauley yn Tuskegee, Alabama. Yn ddiweddarach symudodd i Pine Level, gerllaw Montgomery, Alabama. Yn 1932, Rosa priododd Raymond Parks, barbwr o Montgomery. Dechreuodd weithio gyda'r ymgyrch hawliau sifil yn y 1940au.
Yn y cyfnod yma, disgwylid i bobl dduon ar fysiau Montgomery ildio eu seddau as oedd ar berson gwyn angen sedd. Ar 1 Rhagfyr, 1955, roedd Parks yn teithio ar fws pan ddywedodd y gyrrwr wrthi am ildio ei sedd i wneud lle i deithiwr gwyn. Gwrthododd, a galwyd yr heddlu, a'i cymerodd i'r ddalfa. O'r digwyddiad yma y deilliodd Boicot Bwsiau Montgomery, oedd yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes y Mudiad Hawliau Sifil. Cynorthwyodd Martin Luther King gyda'r ymgyrch, a hyn ddaeth ag ef i amlygrwydd gyntaf. Yn y diwedd rhoddwyd diwedd ar wahaniaethu ar sail lliw ar y bysiau.