Muhammad Ali
Muhammad Ali | |
---|---|
![]() Ali yn 1967 | |
Llysenw(au) |
The Greatest The People's Champion The Louisville Lip |
Pwysau | Pwysau Trwm |
Taldra | 6 ft 3 in (191 cm)[1] |
Cyrhaeddiad | 78 in (198 cm) |
Cenedligrwydd | Americanwr |
Ganwyd |
Cassius Marcellus Clay, Jr. 17 Ionawr 1942 Louisville, Kentucky, U.D.A. |
Bu farw |
3 Mehefin 2016 (74 oed) Scottsdale, Arizona, U.D.A. |
Ystum | Llaw dde |
Cofnod paffio | |
Cyfanswm gornestau | 61 |
Buddugoliaethau | 56 |
Buddugoliaethau drwy KO | 37 |
Colliadau | 5 |
Gwefan | muhammadali.com/ |
Cyn-focsiwr pwysau trwm o'r Unol Daleithiau oedd Muhammad Ali, enw genedigol Cassius Marcellus Clay Jr. (17 Ionawr 1942 - 3 Mehefin 2016). Enillodd bencampwriaeth pwysau trwm y byd deirgwaith.
Ganed ef yn Louisville, Kentucky. Fel bocsiwr amatur, enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1960 yn Rhufain. Wedi'r gemau, trôdd yn focsiwr proffesiynol. Enillodd bencampwriaeth pwysau trwm y byd am y tro cyntaf yn 1964, pan gafodd fuddugoliaeth annisgwyl tros Sonny Liston.
Yn 1967, ymunodd a'r Nation of Islam, a newidiodd ei enw o Cassius Clay i Muhammad Ali. Yn 1967, gwrthododd fynd i ymladd yn Rhyfel Fietnam, a chymerwyd ei deitl oddi arno. Collodd ornest enwog yn erbyn Joe Frazier yn 1971, ond yn 1974, mewn gornest yn Kinshasa, Zaire, curodd George Foreman i ad-ennill pencampwriaeth pwysau trwm y byd. Yn ddiweddarach, ymladdodd ddwy ornest arall yn erbyn Joe Frazier, gan ennill y ddwy.
Wedi iddo ymddeol, datblygodd Ali Glefyd Parkinson; credir bod hyn o ganlyniad i'w yrfa fel bocsiwr.
Bu farw 3 Mehefin 2016 yn Scottsdale, Arizona yn 74 mlwydd oed.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Cassius Clay". sports-reference.com. Sports Reference LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-05. Cyrchwyd 17 Ionawr 2014.
- ↑ NBC News Muhammad Ali, 'The Greatest of All Time', Dead at 74 adalwyd 4 Mehefin 2016