John Coltrane

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
John Coltrane

Coltrane yn 1963
Y Cefndir
Enw
(ar enedigaeth)
John William Coltrane
Llysenw/au "Trane"
Ganwyd (1926-09-23)23 Medi 1926
Hamlet, North Carolina, U.D.A.
Bu farw 17 Gorffennaf 1967(1967-07-17) (40 oed)
Huntington, Efrog Newydd, U.D.A.
Math o Gerddoriaeth
Gwaith
  • Cerddor
  • cyfansoddwr
Offeryn/nau Sacsoffon Tenor a Soprano
Cyfnod perfformio 1945–1967
Label
Perff'au eraill
Gwefan johncoltrane.com

Sacsoffonydd a chyfansoddwr jazz o America oedd John William Coltrane (23 Medi 192617 Gorffennaf 1967), a adnabuwyd weithiau fel "Trane".[1] Gan ddechrau chwarae yn arddulliau bebop a bop galed, roedd Coltrane (ar yr un pryd â'i gyfaill a'i gyd-berfformiwr Miles Davis) yn arloesol wrth gyflwyno moddau cerddorol i jazz, ac yn hwyrach yn ei yrfa roedd yn ffigwr allweddol yn jazz rhydd. Er gwaethaf ei yrfa cymharol fyr - dim ond deng mlynedd sydd rhwng ei record gyntaf dan ei enw ei hun a'i farwolaeth - fe'i hystyrir yn un o gerddorion pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn un o ffigyrau canonaidd jazz ac yn un o'r sacsoffonwyr pwysicaf erioed.[1]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Coltrane yn chwarae'r clarinet cyn dechrau ar y sacsoffon yn yr ysgol.[2] Bu'n chwarae ym mandiau cymunedol ac ysgol cyn ymuno â'r llynges a chwarae ym mandiau yno hefyd. Roedd Charlie Parker yn ddylanwad cynnar, ac ar ôl gadael y llynges aeth Coltrane ymlaen i chwarae ym mandiau nifer o gerddorion eraill gan gynnwys Dizzy Gillespie a Johnny Hodges.

Daeth yn fwy adnabyddus fel rhan o bumawd mawr gyntaf Miles Davies yn 1955. Ar gefn ei waith gyda Davis dechreuodd recordio'n fynych yn ystod 1957. I'r cyfnod hwn mae recordiau mawr gyntaf Coltrane yn perthyn. Bu Davis yn ddylanwad pwysig iawn, a dilynodd Coltrane y trwmpedwr drwy gyflwyno moddau cerddorol i'w gerddoriaeth. Ar yr un pryd, datblygodd arddull unigryw ar y sacsoffon gan symud oddi wrth bebop ac arddull Charlie Parker; defnyddir y term sheets of sound ar gyfer dull Coltrane o chwarae ar recordiau megis Giant Steps (1957). Arhosodd gyda Davis (ac eithrio cyfnod sabothol ym mand Thelonious Monk) am weddill y 50au cyn gadael yn 1960 i ffurfio ei fand ei hun.

Y Pedwarawd 'Clasurol'[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl gadael Davis, ffurfiodd Coltrane ei fand ei hun gyda McCoy Tyner ar y piano, Elvin Jones ar y drymiau, a nifer o faswyr cyn i Jimmy Garrison gwblhau'r band yn 1962. Y grŵp hwn oedd band enwocaf Coltrane ac fe recordiwyd nifer fawr o weithiau gyda nhw rhwng 1962 a 1965. Record enwocaf y band oedd A Love Supreme a recordiwyd yn hwyr yn 1964 cyn ei chyhoeddi yn 1965. Darn crefyddol, defosiynol oedd hwn, ac fe'i hystyrir yn un o recordiau pwysicaf yn hanes jazz.

Gwaith Hwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y 60au roedd cerddoriaeth Coltrane yn dangos fwyfwy dylanwad jazz rhydd. Dechreuodd Coltrane gyflwyno technegau'r arddull i'w chwarae ac i chwarae ei fand, er gwaethaf yr ymateb cymysg a gafodd y newid hwn gan feirniaid y cyfnod. Roedd yr albwm Ascension yn 1965 yn dangos newid mawr: byrfyfyrio pur gan grŵp mawr oedd hwn oedd yn llawer mwy chaotig na'r gerddoriaeth a glywyd ganddo yn gynharach. Gadawodd Tyner a Jones yn 1965 ac fe gymerwyd eu llefydd yn y band gan Alice Coltrane (gwraig John) ac Rashied Ali. Yn ystod yr un cyfnod ymunodd Pharaoh Sanders y grŵp fel ail sacsoffonydd.

Bu farw Coltrane o ganser yr afu yn 1967 yn 40 oed yn unig; mwy na thebyg bu defnydd sylweddol o alcohol a chyffuriau yn ystod ei fywyd yn ffactor.

Dylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymerodd Coltrane le Charlie Parker fel sacsoffonydd mwyaf dylanwadol jazz. Bu'n ddylanwad uniongyrchol mawr ar bron i bob sacsoffonydd yn y gerddoriaeth a ddaeth ar ei ôl, gan gynnwys nid yn unig y rhai a chwaraeodd gydag ef megis Pharaoh Sanders ac Archie Shepp, ond hefyd eraill fel Wayne Shorter ynghyd â sacsoffonwyr cyfnodau diweddarach megis David Murray a Joe Lovano. Coltrane yw un o ffigyrau canolog jazz rhydd a ffigyrau pwysicaf jazz yn y cyfnod ar ôl 1960au.

Rhestr Recordiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr yw'r isod o holl recordiau Coltrane a gynhyrchwyd dan ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth ef, yn ystod ei fywyd. Nid yw'n cynnwys nifer fawr o recordiau byw swyddogol ac answyddogol, sesiynau dan arweinyddiaeth eraill, neu sesiynau na chafodd ei ryddhau tan ar ôl i Coltrane symud ymlaen i gwmni arall (neu ar ôl iddo farw).

Prestige and Blue Note Records[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Coltrane (1957)
  • Blue Train (1957), ei unig sesiwn i Blue Note
  • John Coltrane with the Red Garland Trio (1958)
  • Soultrane (1958)

Atlantic Records[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Giant Steps (1960)
  • Coltrane Jazz (record gyntaf gyda McCoy Tyner ac Elvin Jones) (1961)
  • My Favorite Things (y record gyntaf gyda'r sacsoffon soprano) (1961)
  • Olé Coltrane (1961)

Impulse! Records[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Africa/Brass (1961)
  • Live! at the Village Vanguard (ymddangosiad cyntaf Jimmy Garrison) (1962)
  • Coltrane (albwm gwahanol i'r un o 1957 dan yr un enw. Hwn oedd y record gyntaf gyda'r pedwarawd 'clasurol' yn unig) (1962)
  • Duke Ellington & John Coltrane (1963)
  • Ballads (1963)
  • John Coltrane and Johnny Hartman (1963)
  • Impressions (1963)
  • Live at Birdland (1964)
  • Crescent (1964)
  • A Love Supreme (1965)
  • The John Coltrane Quartet Plays (1965)
  • Ascension (y pedwarawd fel rhan o grwp mawr) (1966)
  • New Thing at Newport (gydag Archie Shepp) (1966)
  • Kulu Sé Mama (1966)
  • Meditations (pedwarawd gyda Pharoah Sanders ac Rashied Ali) (1966)
  • Live at the Village Vanguard Again! (1966)
  • Expression (albwm olaf Coltrane) (1967)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 John Coltrane. allmusic
  2. Group, The Jazz Sipper (2013-03-13). The History of Jazz and the Jazz Musicians. Lulu Press, Inc. ISBN 9781257544486.