Ffliwt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Fluiers.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o offerynnau cerddorol Edit this on Wikidata
Mathofferyn chwyth, offeryn cerdd chwythbren Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharafMileniwm 35. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Offeryn cerdd chwythbren yw'r ffliwt; cynhyrchir y sain drwy i'r gwynt a chwythir o'r geg basio dros ymyl twll y ffliwt. Defnyddir y gair 'ffliwten' hefyd mewn rhai mannau. 'Ffliwtydd' yw person sy'n chwythu'r ffliwt.

Defnyddir y gair, hefyd, yn yr idiom, "Mae hi wedi mynd yn ffliwt!" Hynny yw, fod pethau wedi mynd i'r gwellt. Ystyr arall sydd pan ddywedir "Yr hen ffliwten wirion iddi!"

Gan E. Roberts, yn ei lyfr Crist o'r Cymylau yn Dod i'r Farn, y ceir hyd i'r enghraifft ysgrifenedig gynharaf o'r sillafiad hwn yn y Gymraeg, a hynny yn 1766.

Ffliwt Glasurol y Gorllwein, a ddefnyddir mewn cerddorfeydd clasurol modern. Mae ffliwtiau modern yn seiliedig ar system allweddi a ddyfeisiwyd gan Theobald Boehm yn yr 1830au-1840au.
Magnify-clip.png
Ffliwt Glasurol y Gorllwein, a ddefnyddir mewn cerddorfeydd clasurol modern. Mae ffliwtiau modern yn seiliedig ar system allweddi a ddyfeisiwyd gan Theobald Boehm yn yr 1830au-1840au.

Hanes y Ffliwt[golygu | golygu cod y dudalen]

Darganfuwyd math o ffliwt 30,000 - 35,000 o flynyddoedd oed yn yr Almaen - wedi ei chreu o ysgithrau mamoth. Yn 2004 y gwnaed y darganfyddiad hwn. Yn yr un ogof darganfuwyd dwy ffliwt wedi eu gwneud allan o esgyrn alarch; mae'r rhain ymhlith yr offerynau cerdd hynaf a ddarganfuwyd ar wyneb y Ddaear.

Datblygwyd y Ffliwt Glasurol fodern gan Theobald Boehm yn ystod yr 19g. Byddai ffliwtiau cynharaf wedi'u creu o bren fel arfer, gyda bysedd y ffliwtydd yn gorchuddio tyllau i newid y donfedd. Creuoedd Boehm system o allweddi mecanyddol, gan wneud y ffliwt yn haws i'w chwarae a galluogi cyrraedd nodau uwch nag a fu'n bosib o'r blaen. Wrth i dechnegau gwneuthurio wella yn ystod yr 19eg ganrif dechreuwyd creu ffliwtiau o fetal gan gynnwys arian. Mae ffliwtiau gorllewinol modern yn parhau i ddefnyddio system Boehm i raddau helaeth, er bod ychydig newidiadau wedi eu cyflwyno hefyd.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am ffliwt
yn Wiciadur.
Valtorna template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn cerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.