Neidio i'r cynnwys

Telyn deires

Oddi ar Wicipedia
Telyn deires
Mathinline chromatic harp, chromatic frame harps without tuning action, with the strings in two or more parallel planes Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
John Roberts o'r Drenewydd - 'telynor Cymru' - yn chwarae telyn deires, tua 1875

Mae'r delyn deires yn fath o delyn sy'n defnyddio tair rhes o dannau cyfochrog yn hytrach na'r rhes sengl fwy cyffredin. Un math cyffredin yw'r delyn deires Gymreig, a ddefnyddir heddiw yn bennaf ymhlith chwaraewyr cerddoriaeth werin draddodiadol Gymreig .

Yr arpa tripla Eidalaidd

[golygu | golygu cod]

Crëwyd y delyn deires yn yr Eidal yn y 16g. Er mwyn galluogi'r math o chwarae cromatig oedd yn nodweddiadol o gerddoriaeth y Dadeni diweddar, ychwanegwyd ail res o linynnau sy'n cynnwys y raddfa bentatonig (yr hapnodau) yn gyfochrog â'r rhes gyntaf, a oedd yn cynnwys y raddfa diatonig. Enw'r telynau hyn oedd arpa doppia neu delyn ddwyres ac roedden nhw'n ei gwneud yn bosibl i chwarae'r delyn yn gyfan gwbl gromatig am y tro cyntaf yn ei hanes. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd ail res ddiatonig o linynnau yr ochr arall i'r rhes bentatonig, gan greu'r arpa tripla neu'r delyn deires. Telynau dwyres a theires oedd fwyaf cyffredin drwy gydol cyfnod y Baróc yn yr Eidal, Sbaen a Ffrainc ac fe'u defnyddiwyd fel offerynnau unigol a continwa.

Yr enwocaf o'r telynau teires Eidalaidd sydd wedi goroesi yw telyn Barberini. Crëwyd yr offeryn rhwng 1605 a 1620 ar gyfer y teulu Barberini ac fe'i chwaraewyd gan Marco Marazzoli.[1] Mae ganddi le amlwg yn narlun Giovanni Lanfranco o Fenws yn chwarae'r delyn .

Y delyn deires Gymreig

[golygu | golygu cod]

Dywedir i'r delyn deires gael ei mabwysiadu gyntaf gan delynorion Cymreig a oedd yn byw yn Llundain yn yr 17g. Cymaint oedd poblogrwydd yr offeryn fel iddi ddod i gael ei galw'n "delyn Gymreig" erbyn dechrau'r 18g. Charles Evans yw'r cyntaf i'w ddisgrifio fel telynor teires. Fe'i penodwyd yn delynor i'r llys brenhinol yn 1660, ar adeg pan oedd y delyn deires yn cael ei galw'n y delyn Eidalaidd.

Ceir disgrifiad o'r delyn deires Gymreig gan y telynor John Parry (Bardd Alaw) (1776–1851) yn y rhagair i ail gyfrol ei gasgliad, The Welsh Harper (Llundain 1839):

The compass of the Triple Harp, in general, is about five octaves, or thirty-seven strings in the principal row, which is on the side played by the right hand, called the bass row. The middle row, which produces the flats and sharps, consists of thirty-four strings; and the treble, or left hand row, numbers twenty-seven strings. The outside rows are tuned in unison, and always in the diatonic scale, that is, in the regular and natural scale of tones and semitones, as a peal of eight bells is tuned. When it is necessary to change the key, for instance, from C to G, all the Fs in the outside rows are made sharp by raising them half a tone. Again, to change from C to F, every B in the outside rows is made flat, by lowering it a semitone. When an accidental sharp or flat is required, the performer inserts a finger between two of the outer strings, and finds it in the middle row. Many experiments have been made, with a view of obviating the necessity of tuning the instrument every time a change in the key occurred. Brass rings were fixed near the comb, but those rattled and jarred; in short, every attempt failed until the invention of the pedal harp.

Bu bron i'r sgil o wneud telynau ddiflannu yng Nghymru tan i'r grefft gael ei hadfywio gan John Weston Thomas, gweithiwr coed a metel dawnus, wneud telynau Celtaidd, cromatig a theires. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1992 cychwynnwyd gwobr goffa, "Tlws Coffa John Weston Thomas", yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar gyfer cystadleuaeth yn yr arddull werin draddodiadol. Trosglwyddodd ei sgiliau i dri phrentis: Allan Shiers, Brian Blackmore ac Alun Thomas, ei fab. Mae Alun yn dal i wneud telynau triphlyg a Cheltaidd yn ei weithdy yn Abergwaun.[2] Nid yw Brian Blackmore bellach yn gwneud telynau teires, ond mae Allan Shiers wedi parhau â'r traddodiad yng Nghymru ac wedi sefydlu Telynau Teifi yn Llandysul, Ceredigion.[3]

Dulliau chwarae

[golygu | golygu cod]

Ymhlith y technegau chwarae pennaf a mwyaf nodweddiadol y delyn deires mae'r unseiniau neu "ddyblu rhaniedig". Ceir effaith unseiniau trwy chwarae'r un nodyn ar y rhesi allanol gan ddefnyddio'r ddwy law yn gyflym mewn dilyniant. Felly, mae dilyniant ee C-D-F-E, yn cael ei gyflawni trwy chwarae CC-DD-FF-EE.

Ers y canol oesoedd, mae telynorion Cymreig wedi chwarae'r delyn ar yr ysgwydd chwith, yn groes i arfer ar y cyfandir.[4]

Chwaraewyr modern

[golygu | golygu cod]

Ar ôl dechrau'r 20g, cafodd telynau teires eu hesgeuluso bron yn gyfan gwbl bron yng Nghymru. Rhoir y clod am gynnal yr offeryn a'r arddull chwarae i Nansi Richards (1888–1979), a ddysgodd chwarae gan sipsiwn yn ardal y Bala ar droad y ganrif.

Nansi Richards ddysgodd y brodyr Dafydd a Gwyndaf Roberts i chwarae'r delyn. Aeth y brodyr ymlaen i ddod yn aelodau sylfaenol o grŵp gwerin amlycaf Cymru, Ar Log . Er bod y ddau frawd yn delynorion teires hyfedr, daeth yn arferol gydag Ar Log i Dafydd chwarae telyn deires (a ffliwt), a Gwyndaf chwarae telyn a chlarsach (a gitâr fas).

Un o delynorion teires amlycaf heddiw yw Robin Huw Bowen, a ddylanwadwyd gan gerddoriaeth Ar Log. Mae Llio Rhydderch, un arall o ddisgyblion Nansi Richard, wedi canolbwyntio ar ddysgu cenhedlaeth newydd o delynorion ifanc.[5] Ffurfiwyd grŵp telyn deires o'r enw Rhes Ganol yn 2000.

Mae telynorion teires eraill yn cynnwys Elonwy Wright, Carwyn Tywyn, Sioned Webb a Bethan Nia. Mae'r delyn deires hefyd yn cael ei chwarae gan rai o delynorion clasurol Cymru, gan gynnwys Angharad Evans, Elinor Bennett, Meinir Heulyn ac Eleri Darkins.

Mae rhai chwaraewyr y tu hwnt i Gymru yn chwarae'r offeryn hefyd, gan gynnwys Maria Christina Cleary,[6] Cheryl Ann Fulton, Frances Kelly, Mike Parker, Robin Ward a Fiona Katie Roberts.

Mae cyfansoddwyr modern wedi dangos diddordeb yn y delyn deires. Mae Richard Barrett wedi cynnwys yr offeryn yn yr ensemble amrywiol yn ei waith aml-rannog, Construction.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "The Barberini Harp". National Museum of Musical Instruments (yn Saesneg). 2016-01-22. Cyrchwyd 2018-03-15.
  2. "Alun Thomas Harpmaker". Cyrchwyd 31 October 2017.
  3. "About Teifi Harps". Teifi Harps. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-16. Cyrchwyd 31 October 2017.
  4. Jones, Ffion M. (2006). "Harp, Welsh". In Kock, John T. (gol.). Celtic culture: a historical encyclopedia. Vol. 1. Santa Barbara, CA, USA: ABC-CLIO. t. 893. ISBN 9781851094400.
  5. "Llio Rhydderch". Cerdd Cymru - Music Wales. Cyrchwyd 14 March 2019.
  6. "Maria Christina Cleary". ArParla. 2018.