Pibau Cymreig
Math | pibgod |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Offerynnau cerdd yw'r pibau Cymreig. Ceir sawl math, e.e. pibgorn, côd-biban, pibgod, pibgwd, pibau cyrn, pibau cwd, bacbib, pibau gwynt.
Ceir tystiolaeth am bibau gwynt yng Nghymru o'r 10g ymlaen, ond bu i'r traddodiad farw erbyn diwedd y 19g oherywdd newid mewn ffasiwn a chwaeth cerddorol a dylanwad y mudiad Methodistaidd a filwriodd, ar y cychwyn, yn erbyn cerddoriaeth 'werin' am resymau crefyddol. Erbyn hyn, dim ond un enghraifft o bibau gwynt Cymreig a geir, a hynny yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Serch hynny, cafwyd adfywiad mewn diddordeb mewn canu'r pibau ers yr 1980au.
Bydd 'badgad' o bipwyr Cymreig yn arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth bob blwyddyn. Ymhlith y rhai bu'n gorymdeithio bu Gwilym Bowen Rhys (cyn leisydd grŵp y Bandana) a Geraint Roberts o Ystalyfera. Yn 2024 canwyd tonau Hoffed ap Hywel, Crwtyn Llwyd, a Chalon Lân ar y pibau gan 'Bagad Sblot' sef, Sam Petersen a Rhodri Gibbon o'r grŵp gwerin, Avanc o Gaerdydd.[1][2]
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Pibau Cymru Erthygl ar wefan 'Lleoli i Mi' y Gogledd Orllewin y BBC
- Welsh Bagpipe Welsh Hornpipe: Blog am bibau Cymraeig gan Ceri Rhys Matthews (Saesneg)
- Pibydd Glantywi: Blog dwyieithog gan bibau Cymreig
- Tim Eastwood Wales Border Bagpiper Sianel Youtube pibydd sy'n canu'r pibau Cymreig a phibau eraill
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sgwrs gyda'r Tywysydd, David Greaney ac un o bois Bagad Sblot yn Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth". Twitter @GwylDewiAber. 2 Mawrth 2024.
- ↑ "Bagad Sblot (bois band Avanc) yn arwain Parêd Gŵyl Dewi #Aberystwyth heddiw gyda David Greaney, y Tywysydd. Gosgordd - Ruadhan a Luca o Ysgol Penglais a Lowri a Gwenllian. Ymateb hyfryd gan bobl Aberystwyth. #DyddGwylDewi". Twitter @GwylDewiAber. 2 Mawrth 2024.