Ceri Rhys Matthews
Ceri Rhys Matthews | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mai 1960 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Arddull | canu gwerin |
Cerddor cerddoriaeth draddodiadol Cymru,[1] cynhyrchydd recordiau,[2][3] ac athro yw Ceri Rhys Matthews (ganwyd 29 Mai 1960). Fe'i gysylltir fwyaf gydag adfywiad y pibau Cymreig.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Matthews ym maestref Treboeth, ger Abertawe. Addysgwyd ef mewn ysgol gynradd Ynystawe, Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las, ac Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera (Bro Dur bellach), ac aeth ymlaen i astudio Celfyddyd Gain ac Arlunio yn Ysgol Gelf Abertawe a Choleg Celf Maidstone o dan Patricia Briggs, Robin Sewell, Noel White a Michael Upton.[4]
Cerddoriaeth a chynhyrchu
[golygu | golygu cod]Fel unawdydd ac aelod o’r grŵp gwerin Cymreig, Fernhill,[5] fe’i galwyd yn “ffigwr allweddol yn y dadeni traddodiadau cerddorol Cymreig”, gan y newyddiadurwr Julian May yng nghylchgrawn Songlines a’i ddisgrifio ganddo fel “a one man Welsh music industry"[6] Mae wedi cynhyrchu 21 crynoddisg ar gyfer is-gwmni Fflach, fflach:tradd.[7] Yn 2000, cynhyrchodd Rough Guide to the Music of Wales ar gyfer y World Music Netowrk.[8] Yn 2009, fe gynhyrchodd Blodeugerdd: Song of the Flowers - An Anthology of Welsh Music and Song ar gyfer y Smithsonian Folkways a ddaeth yn gyntaf yng Ngwobrau Cerddoriaeth Annibynnol 2009 ar gyfer Albwm Traddodiadol Gorau'r Byd.[9]
Prosiectau
[golygu | golygu cod]Bu iddo gychwyn ac yn dysgu cerddoriaeth mewn dau brosiect hunan-ariannu hirdymor cysylltiedig; Pibau Pencader, a phrosiect Sesiynau Ioan Rhagfyr, yn Tŷ Siamas, Dolgellau.[10][11] Roedd Ioan Rhagfyr (John Williams) yn gerddor o Ddolgellau (1740-1821).
Poblogeiddio'r Pibau Cymreig
[golygu | golygu cod]Bu i Ceri Rhys Matthews wneud llawer wrth ddod â sain y pibau Cymreig neu alawon Cerddoriaeth draddodiadol Cymru ar bibau gwahanol, i sylw y cyhoedd. Ef oedd arweinydd gyntaf Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2013 pan ganodd y pibau wrth arwain yr Orymdaith drwy dref Aberystwyth gyda Dr Meredydd Evans fel tywysydd.[12][13]
Dysgu
[golygu | golygu cod]Mae ei weithgareddau addysgu yn cwmpasu sbectrwm eang. Mae'r rhain yn cynnwys prosiect Ysgol Iau tymor hir i wneud ffliwt[14] yn Nolgellau, Cymru; addysgu mewn amrywiol Ysgolion Haf gan gynnwys The English Acoustic Collective Summer School, Ruskin Mill; ac ar y Penwythnosau Yscolan, Pentre Ifan.[15]
Mae’n diwtor gwadd ar y Radd BMus mewn cerddoriaeth werin a thraddodiadol ym Mhrifysgol Newcastle, a The Sage Gateshead; ac ar Radd Cerddoriaeth BMus (Anrh) yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Gyda'r grŵp y Saith Rhyfeddod
- Saith Rhyfeddod (Sain, 1991)
- Cico Nyth Cacwn (Fflach, 1994)
Fel cerddor unigol
- Traditional songs of Wales ( Saydisc, 1995)
- A Celtic Christmas (Saydisc, 1996)
- Shrug off ya complex (with Y Tystion. Crai, 1998)
- South Wales Beat (with Wepun Ex Project. Wonky Wax, 2003)
- Funky Fresh (with Wepun Ex Project. Wonky Wax, 2003)
- William Kennedy Piping Festival (Armagh Piper's Club, 2004)
- Alawon (with Burum. fflach:tradd, 2006)
- Yscolan (Disgyfrith, 2006)
- Y Gwythienne (Disgyfrith, 2021)
Gyda'r grŵp Fernhill
- Ca' nôs (Be Jo, 1996)
- Llatai (Be Jo, 1997)
- Whilia (Be Jo, 2000)
- hynt (Be Jo, 2003)
- Na Prádle (live) (Be Jo, 2007)
- Canu Rhydd (Disgyfrith, 2011)
- Amser (self-released, 2014)
Fel cynhyrchydd recordiau
- Ffidil (fflach:ttradd, 1997)
- Datgan (fflach:ttradd, 1997)
- Telyn (fflach:ttradd, 1997)
- KilBride (fflach:ttradd, 1997)
- Gramundus (fflach:ttradd, 1998)
- Pibau (fflach:ttradd, 1999)
- Megin (fflach:ttradd, 1999)
- Minka (fflach:ttradd, 1999)
- Melangell (fflach:ttradd, 2000)
- The Rough Guide to the Music of Wales (World Music Network, 2000)
- Boys from the Hill (fflach:ttradd, 2001)
- Perllan (fflach:ttradd, 2001)
- Ffawd (fflach:ttradd, 2001)
- Enlli (fflach:ttradd, 2002)
- Sidan (fflach:ttradd, 2002)
- Toreth (fflach:ttradd, 2003)
- Crwth (fflach:ttradd, 2004)
- Priodi (fflach:ttradd, 2004)
- Blas (fflach:ttradd, 2004)
- Gwenllian (fflach:ttradd, 2005)
- Pibddawns (fflach:ttradd, 2006)
- Tro (fflach:ttradd, 2008)
- Blodeugerdd: Song of the Flowers (Smithsonian Folkways, 2010)[16]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Fernhill
- Gwefan swyddogol Ceri Rhys Matthews 'ysgolan' yn cynnwys clipiau fideos, sain a delweddau
- Blodeugerdd, Smithsonian Folkways
- Gwefan Swyddogol fflach:tradd Archifwyd 2017-03-14 yn y Peiriant Wayback
- Ceri Rhys Matthews a Christine Cooper perfformiad a sgwrs yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Medi 2009
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vallely, Fintan. The Companion to Irish Traditional Music. Cork University Press, 1999, p. x. ISBN 1-85918-148-1
- ↑ "Smithsonian Folkways". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2009. Cyrchwyd 21 July 2009.
- ↑ "Various Artists - Blodeugerdd Song of the Flowers: An Anthology of Welsh Music And Song". Independentmusicawards.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-05. Cyrchwyd 2020-07-04.
- ↑ Golwg magazine. September 1991 issue.
- ↑ Harris, Craig. "Biography: Fernhill". Allmusic. Cyrchwyd 26 Ebrill 2010.
- ↑ Songlines magazine. Issue number 41.
- ↑ Living Tradition Magazine. Issue number 30. Article on fernhill
- ↑ "Rough Guide to the Music of Wales CD Album". Cduniverse.com. Cyrchwyd 2020-07-04.
- ↑ "The Independent Music Awards: Nominees : Album : World Traditional". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 March 2011. Cyrchwyd 2011-07-14.
- ↑ "Ceri Rhys Matthews". Virtual WOMEX. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.
- ↑ "Sesiwn Ioan Rhagfyr Dolgellau". Gwefan Trac. 2022. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.
- ↑ "Merêd yw tywysydd parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth". BBC Cymru Fyw. 10 Chwefror 2013.
- ↑ "700 yn mynychu parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth". BBC Cymru Fyw. 1 Mawrth 2013.
- ↑ Cambrian News. Article, April 2009.
- ↑ "Yscolan Residential Weekend For Musicians at Canolfan Yr Urdd on The Session". Thesession.org. Cyrchwyd 2020-07-04.
- ↑ "Ceri Rhys Matthews music". Discogs.com. Cyrchwyd 2020-07-04.