Tŷ Siamas
Math | amgueddfa, sefydliad, canolfan treftadaeth |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Neuadd Idris |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 13.3 metr |
Cyfesurynnau | 52.742339°N 3.885844°W |
Cod post | LL40 1PU |
Sefydlwydwyd gan | Huw Dylan Owen |
Tŷ Siamas yw Canolfan Genedlaethol Gerddoriaeth Werin, a fe'i lleolir yn Nolgellau, Gwynedd. Enwir yr amgueddfa ar ôl Elis Siôn Siamas, telynor o'r 18fed ganrif.[1] Galwodd Ywain Myfyr, cadeirydd a sylfaenydd Sesiwn Fawr Dolgellau, am ganolfan gerddoriaeth werin o'r fath. Agorwyd Tŷ Siamas yn 2007 yn yr hen Neuadd Idris, dan arweiniad Mabon ap Gwynfor.[1]
Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Gwynedd trwy'r Gronfa Adfywio Lleol ac ystod o gronfeydd eraill, gan gynnwys cymorth gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru gyda chyfanswm o £1.2 miliwn. Beirniadodd Darren Millar AS, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y prosiect yn 2013 am iddo greu dwy swydd rhan-amser yn lle'r 19 o swyddi amser llawn a ddisgwyliwyd.[2]
Datgelwyd murlun am gerddoriaeth gan Andy Birch ar wal Tŷ Siamas ym mis Gorffennaf 2021.[3]
Cynhelir sesiynau cerddoriaeth werin anffurfiol 'Sesiwn Ioan Rhagfyr' yno ar drydydd nos Fercher y mis. Enwir y sesiynau ar ôl y cerddor lleol, John Williams (Ioan Rhagfyr) (1740-1821) bu'n byw a chyfansoddi yn yr ardal.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Folk centre 'must attract more'". BBC News (yn Saesneg). 20 Mawrth 2008. Cyrchwyd 26 Medi 2022.
- ↑ "Questions raised over Ty Siamas folk centre jobs plan". BBC News (yn Saesneg). 17 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 26 Mehefin 2022.
- ↑ "Musical-inspired mural brightens up town". Cambrian News (yn Saesneg). 26 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 26 Medi 2022.
- ↑ "Sesiwn Ioan Rhagfyr Dolgellau". Gwefan Trac. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.