John Williams (Ioan Rhagfyr)
John Williams | |
---|---|
Ffugenw | Ioan Rhagfyr |
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1740 Llangelynnin |
Bu farw | 11 Mawrth 1821 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Roedd John Williams a adnabwyd fel Ioan Rhagfyr (1740-1821) yn gerddor o ardal Dolgellau y bu iddo gyfansoddi sawl tôn yn arbennig i'r ffliwt. Gelwir sesiwn gerddorol ar ei ôl yn nhref Dolgellau.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd 26 Rhagfyr 1740, yn Hafoty Bach, plwyf Celynnin, Meirionnydd, mab William Robert Williams, a'i fam yn berthynas i Edward Samuel, Llangar. Symudodd y teulu i fyw i Dalywaen, ger Dolgellau.
Gwneuthurwr hetiau brethyn ydoedd y tad, a dysgodd y mab y grefft. Arferai masnachwyr gwlân o Amwythig letya yn Nhalywaen, a thynnwyd eu sylw at ddawn John Williams i ddysgu, a thalasant am dri mis o addysg iddo yn Amwythig. Cafodd wersi mewn cerddoriaeth, a dysgodd ganu'r trwmped a'r ffliwt. Wedi dychwelyd gartref dechreuodd gyfansoddi cerddoniaeth a barddoniaeth.
Yn 1763 priododd â Jane, merch William Jones, Bryn Rhyg, Dolgellau. Yn 1772 rhoddodd gorau i'w grefft ac aeth yn glerc at Edward Anwyl, cyfreithiwr, ac wedi hynny bu'n cadw ysgolion yn Nhrawsfynydd, Abermaw, Dolgellau, a Llanelltyd.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Efe oedd cerddor enwocaf ei gyfnod, a chyfansoddodd lawer iawn o gerddoriaeth offerynnol, anthemau, a thonau. Bu rhai o'i anthemau yn boblogaidd am amser hir, a cheir ei donau Sabath, Cemaes, a Dyfroedd Siloah yn ein casgliadau tonau. Ceir ei ddarnau offerynnol - yr ymdeithganau, gavottes, a miniwets - yn Y Cerddor Cymreig (cyhoeddiad gan Ieuan Gwyllt). Yn llyfr Ffoulk Robert Williams ('Eos Llyfnwy') Cerddoriaeth o Gerddi Seion mewn llawysgrif sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir 59 o donau a 21 o anthemau o waith John Williams.
Bu farw 11 Mawrth 1821 a chladdwyd ef ym mynwent Llanfair Bryn Meurig.
Casgliad
[golygu | golygu cod]Ceir peth o'i waith (Llsg 2299) yn llyfrgell Prifysgol Bangor gan gynnwys rhai tonau a gyfansoddodd a nodd yn ei law eu bod yn "'perthynol i'r german flute scale". Yn ôl y cerddor, Ceri Rhys Matthews mewn erthygl ar y casgliad, dywed mai brawd Ioan, Robert, oedd bia'r nodiadau ond iddynt cael eu casglu gan eu brawd, Ythyr. "Mae'n dyddio o 1767, gan wneud hyn yn lawysgrif arbennig o gynnar ar gyfer cerddoriaeth ffliwt yng Nghymru ac i gerddoriaeth y ffliwt ym Mhrydain, tu hwnt i gerddoriaeth filwrol a'r llŷs brenhinol neu bonheddigion."[1]
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Er cof ac fel dathliad o'i waith fel cerddor lleol, gelwir sesiynau canu gwerin anffurfiol a gynhalwyd yng nghanolfan cerddoriaeth draddodiadol Cymru, Tŷ Siamas yn 'Sesiynau Ioan Rhagfyr'. Byddant yn cwrdd ar y trydydd nos Fercher o'r mis.[2] Bu'r cerddor Ceri Rhys Matthews yn chwarae rhan ganolog yn y digwyddiadau.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "raditional welsh flute - ioan rhagfyr". Blog Yscolan gan Ceri Rhys Matthews. 14 Medi 2007.
- ↑ "Sesiwn Ioan Rhagfyr Dolgellau". Gwefan Trac. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.
- ↑ "Ceri Rhys Matthews". Virtual WOMEX. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.