Pentre Ifan
| Math | cromlech |
|---|---|
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
| Lleoliad | Nanhyfer |
| Sir | Nanhyfer, Sir Benfro |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.999°N 4.77°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Deunydd | carreg |
| Dynodwr Cadw | PE008 |
Pentre Ifan yw cromlech fwyaf Cymru. Saif yng nghymuned Nanhyfer, Sir Benfro, rhyw 2 km o bentref Nanhyfer a 17 km o Aberteifi.
Mae'r gromlech, sydd yng ngofal Cadw, yn dyddio o tua 3500 CC., ac yn wreiddiol roedd wedi ei gorchuddio gan domen o gerrig tua 36 m o hyd i ffurfio siambr gladdu. Mae'r maen capan yn 5.1 m o hyd, ac yn pwyso tua in 16 tunnell.
Mae amlinelliad yr henebyn, sydd wedi'i gloddio gan archaeolegwyr, yn dangos fod ei ben blaen ar ffurf cilgant gyda phorth uchel a bod y domen o gerrig yn culhau yn y cefn. Mae hyn yn siâp anghyffredin yng Nghymru, ond ceir siambrau claddu cyffelyb yn ne-orllewin yr Alban. Mae'r cyfan yn gorwedd ar echel ogledd - de.
Darganfuwyd olion tyllau rheolaidd ar ei ymyl a rhesi o gerrig bychain a oedd efallai o arwyddocâd defodol fel rhan o gwlt y meirw.
Gwersyll yr Urdd
[golygu | golygu cod]Yn 2023 agorodd Urdd Gobaith Cymru wersyll newydd ger safle cromlech Pentre Ifan. Mae Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan wedi ei henwi ar ôl y gromlech. Mae'n llai na'r chwaer gwersylloedd yn Llangrannog neu Glan-llyn ac wedi ei teilwrio at arddegwyr hŷn a phobl ifainc.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain, 1978)



