Amser
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | maint fector ![]() |
Math | cyfres, set y gellir ei mesur ![]() |
Rhan o | gofod-amser ![]() |
![]() |

Cysyniad sy'n mesur parhad digwyddiadau a'r cyfnodau rhyngddynt yw amser.
Mae amser yn baramedr sylfaenol i bopeth sy'n newid – heb newid ni cheir amser, heb amser ni cheir newid. Mesur y mae amser graddfa newid digwyddiadau. Trwy sefydlu graddfa o'r fath y mae amser yn ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr hyn sydd wedi digwydd, yr hyn sy'n digwydd a'r hyn sydd ar fin digwydd; yr hyn a fu, y sydd ac a fydd.
I sylwedydd cyffredin mae'n ymddangos fod amser yn llifo'n gyson i un cyfeiriad yn unig, h. y. o'r gorffennol i'r presennol ac i'r dyfodol. Ond, yn ôl damcaniaeth perthnasedd Einstein nid dyna sydd mewn gwirionedd. Er mwyn lleoli digwyddiad yn iawn yn y bydysawd Einsteinaidd rhaid ei ystyried mewn continwwm gofod-amser pedwar dimensiwn.
Yn hanesyddol, roedd mesur amser yn seiliedig ar sylwadau seryddol, sef yr amser sy'n mynd heibio tra bod y ddaear yn cylchdroi ar ei hechel (sef diwrnod) neu iddi gwblhau ei chylchdro o gwmpas yr haul (sef blwyddyn). Fodd bynnag, mae gwyddoniaeth ddiweddar yn seilio mesur amser ar yr eiliad, a ddiffinnir yn nhermau amlder ymbelydredd arbennig a ryddheir gan isotop diffiniedig cesiwm; gelwir hyn yn gloc cesiwm.
Dyfyniadau barddol am amser[golygu | golygu cod]
“ | Mae syllu i lygad amser
|
” |
“ | Gobaith fo’n meistr:
|
” |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Lewis, Saunders, o'r ddrama Siwan