Crynoddisg

Oddi ar Wicipedia
Crynoddisg: enghraifft o'r 2000au

Disg optegol a ddefnyddir i storio data digidol yw crynoddisg, CD-ROM neu CD. Dechreuodd datblygiad y cyfrwng gan y cwmniau electroneg Philips a Sony yn 1979. Bu'n dair blynedd cyn fod y crynoddisg yn cael ei ryddhau yn 1982. Yn wreiddiol, fe'i cynlluniwyd fel cyfrwng ar gyfer storio cerddoriaeth ddigidol yn unig, oherwydd fod golwg y disgiau yn debyg i recordiau feinyl, ond yna addaswyd y dechnoleg i'w ddefnyddio fel dyfais storio data gwahanol megis delweddau, testun a rhaglenni. Felly, rhyddhawyd y CD-ROM ym mis Mehefin 1985, a fyddai'n dod yn brif gyfrwng ar gyfer meddalwedd cyfrifiadurol am dros ddegawd rhwng 1993 a 2005, pan ddaeth y we fyd-eang yn gryfach cyfrwng.

Ystyr "CD" ydy talfyriad o "Compact Disg" (CD|Cryno Ddisg); ac ystyr "ROM" ydy Read Only Memory, gan nad oedd hi'n bosibl i'r defnyddiwr losgi gwybodaeth ar y ddisg fwy nag unwaith sef write-once audio and data storage (CD-R) ac yna: rewritable media (CD-RW), Video Compact Discs (VCD), Super Video Compact Discs (SVCD), PhotoCD, PictureCD, CD-i, ac Enhanced CD. Gwelodd yr Audio CD a chwaraewyr audio CD olau dydd yn gyntaf yn 1982.

Roedd y CD-ROM rhyngweithiol yn defnyddio sain, llun, ffilm, animeiddiadau "Flash" ayb ac yn rhoi cyfle i'r defnyddiwr roi mewnbwn. Oherwydd hyn, roeddent yn cael eu defnyddio llawer fel adnodd addysgol. Un o'r cyntaf yn y Gymraeg oedd y gyfres hanes honno "FfotoBanc Cymru" gan Gyhoeddiadau Sycharth.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato