Co-bach

Oddi ar Wicipedia
Top i'r gwaelod: Memory Stick PRO, Memory Stick PRO Duo, Memory Stick Micro (M2).

Cerdyn fflash hawdd ei drin gyda'r gallu i gofio data ydy Co-bach. Mae'r gair yn cael ei ddefnyddio am deulu cyfan o ffyn (neu gardiau) gan gynnwys y Memory Stick PRO, sy'n welliant ar y rhagflaenydd gan ei fod yn medru cynnal mwy o gof ac yn trosglwyddo'r wybodaeth tipyn cynt.

Cafodd ei lawnsio gan Sony yn Hydref 1998 ar gyfer offer electronic megis y camera digidol[1], a defnyddir y bathiad Cymraeg gan fod y term yn cael ei ddefnyddio yng Ngogledd Cymru fel llysenw am "dad". Mae'n cynnwys dau air: cof a bach.

Yn Rhagfyr 2006 ychwanegodd Sony Memory Stick PRO-HG, datblygiad o'r PRO a ellid ei ddefnyddio i gynnal a throsglwyddo fideo cydraniad uchel a lluniau gan gamerâu digidol.[2] Ymhlith yr ychydig gwmniau eraill a all eu cynhyrchu mae SanDisk a Lexar. Mae Kingston yn cynhyrchu microSD ar gyfer addasiad o'r Kingston, ond yn answyddogol.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.sony.net/SonyInfo/News/Press_Archive/199807/98-067/
  2. "MEAD-MS01 Memory Stick card adapter (Sony)". Pro.sony.com. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2011.
Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.