Fflach
Math | label recordio |
|---|---|
| Sefydlwyd | 1981 |
| Sefydlydd | Ail Symudiad |
| Pencadlys | Aberteifi |
| Gwefan | http://www.fflach.co.uk/ |
Label a stiwdio recordio yng Nghymru yw Fflach. Fe'i sefydlwyd ym 1980 gan aelodau y grŵp Ail Symudiad sef y ddau frawd, Richard a Wyn Jones, Gareth Lewis a Robin Davies.
Record gyntaf y label oedd y sengl Twristiaid yn y Dre a ryddhawyd yn gynnar yn 1981.[1] Yn ogystal â recordio caneuon Ail Symudiad; aeth y cwmni ymlaen i recordio a ryddhau cynnyrch nifer fawr o grŵpiau eraill, gan gynnwys Y Ficar, Eryr Wen, Malcolm Neon, Angylion Stanley, Y Diawled, Rocyn a Maffia Mr Huws.
Sefydlwyd stiwdio mewn festri capel yn Aberteifi cyn symud yn ddiweddarach i Heol Dinbych-y-Pysgod, ble newidiwyd adeilad allanol i fod yn stiwdio. Yn ddiweddarach ffurfiwyd is-labeli er mwyn ryddhau mathau gwahanol o gerddoriaeth gan gynnwys corau, canu gwerin a cherddoriaeth roc.
Yn dilyn marwolaethau y brodyr Richard a Wyn yn 2021, daeth cynlluniau i ail-lansio fel cwmni cydweithredol. Ar ddiwedd 2024 cyhoeddwyd y bwriad i werthu cyfranddaliadau i unigolion er mwyn creu cwmni newydd 'Fflach Cymunedol' fydd yn berchen i'r gymuned.[2]
Is-labeli
[golygu | golygu cod]- fflach:tradd. Sefydlwyd ym 1997 er mwyn hybu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Rasp. Sefydlwyd yn 2000 ar gyfer cerddoriath pop a roc.
Detholiad artistiaid
[golygu | golygu cod]Ar Fflach
Ar Rasp
- Mattoidz
- Lowri Evans
- Garej Dolwen
- Y Ffug
- Bromas
- Castro
- Texas Radio Band
- MC Mabon
- Swci Boscawen
Ar fflach:tradd
- Llio Rhydderch
- Julie Murphy and Dylan Fowler
- Ceri Rhys Matthews
- Cass Meurig
- Sild
- Gwilym Bowen Rhys
- DnA (Delyth and Angharad Jenkins)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ail Symudiad - WICI". wici.porth.ac.uk. Cyrchwyd 2025-08-07.
- ↑ "Label recordiau Fflach Cymunedol yn agor cyfranddaliadau i gefnogi'r cwmni newydd". newyddion.s4c.cymru. 2025-08-07. Cyrchwyd 2025-08-07.