Gŵyl Cadi Ha

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dawnswyr Delyn yng Nghaerwys

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gŵyl werin draddodiadol a gynhelir ar Galan Mai yw Gŵyl Cadi Ha, mae'n ddathliad i ffarwelio â'r gaeaf a chroesawu'r haf. Dros y ffin yn Lloegr, mae gwyliau tebyg, yn gysylltiedig â dawnsio morys.

Tarddodd y traddodiad yn ardaloedd pyllau glo Sir y Fflint yn arbennig Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasa. Roedd y ddawns yn cynnwys parau o ddynion mewn dwy linell, gyda’u hwynebau wedi eu duo gan lwch y glo, neu gorcyn wedi ei losgi, er mwyn cuddio rhag y diafol. Gorymdeithient y tu ôl i ddyn yn cario cangen o ddraenen ddu, wedi'i addurno efo rhubanau a chlychau, ac yn gwisgo dillad gwynion, gyda’r naill linell yn cario rhubannau cochion a’r llall â rhubannau gleision, gan aros yma ac acw i ganu. Mae cofnod o'r ddawns a chân yn mynd yn ôl i 1815 yn ardal Treffynnon. Weithiau aent cyn belled â dyffrynoedd Clwyd a Chonwy gyda'u hwynebau wedi'u duo.

Roedd wyth yn dawnsio yn y Cadi Ha efo dau gymeriad ychwanegol; Bili, mewn gwisg ddu, a Chadi mewn dillad merch. Ei swyddogaeth oedd sgubo ymaith ysbrydion drwg y gaeaf i baratoi am y gwanwyn, a gynrychiolid gan y dawnsiwr efo'i gangen. Weithiau âi'r Fari Lwyd efo nhw. Byddai Bili a Chadi yn rhyngweithio a chasglu arian mewn lletwad gan ymateb i eiriau’r caneuon.

Roedd eu dawnsio'n gystadleuol o ran natur gan gyfeirio at “neidio am yr ucha”, “neidio dros dy ben di” neu “neidio dros y gamfa” (neu "sticill"). Roedd llinellau eraill yn cyfeirio at y “ladal” neu’r lletwad ac at gasglu arian.

Cân Cadi Ha[golygu | golygu cod y dudalen]

Dawnswyr ifanc Perree Bane o Ynys Manaw yn Loggerheads

Cenid sawl fersiwn o'r geiriau yn amrywio o ardal i ardal ac yn esblygu dros y blynyddoedd ond dyma rai:

Hwp Ha Wen, Cadi Ha,

Morys stowt am yr uchla neidio,

Hwp dene fo.

Fy ladal i, a'i ladal o,

a'r ladal ges i fenthyg,

Cynffon buwch a chynffon llo,

A chynffon Rhisiart Parri'r go,

Hwp dene fo!

A fi di gwr y rhuban coch,

Neidiaf dros y gafna,

Hwp dene fo!

Bili

Er bod y traddodiad hwn ynghlwm â’r iaith Gymraeg ac yn gysylltiedig â chymunedau lle ceid, ychydig dros ganrif yn ôl, gyfran helaeth o siaradwyr Cymraeg uniaith – mae cofnod o ddefnyddio rhai geiriau Saesneg. Mae llinellau fel “On the first day of May we’ll have a holiday” ac “I wish i e, I wish i o, I wish I had a penny o” yn cyfleu ychydig o’r traddodiad i’r sawl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.

Yn y 18g fe nododd Lady Herbert Lewis o Gaerwys y gân a’r ddawns ar ôl sgwrsio gyda meistr Tloty Treffynnon (a daeth yn ysbyty Lluesty ond wedi cae a chael ei gwerthu erbyn heddiw) ac mae’r fersiwn honno, heb gynnwys tafodiaith Sir y Fflint, yn parhau i gael ei defnyddio. Er i’r arfer golli ei fri ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, mae llawer o drigolion y cylch yn cofio gweld perfformio’r Cadi Ha, neu, hyd yn oed yn meddu ar atgof plant neu bobl ifanc o wisgo a pherfformio rhyw ddawns neu gilydd un unol â’r traddodiad.

Ail-sefydliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Diolch i Ieuan ap Siôn, canwr lleol, bu adfywiad yn y 1970 a’r 80au. Gan seilio'r ddawns ar atgofion ei dad a’i daid fe gasglodd criw ynghyd i deithio bob dechrau Mis Mai. Arferent ddawnsio “rhywsut, rhywsut” yn hytrach na chadw at sgript ac fe gafwyd sawl ymddangosiad ar y teledu. Fel canlyniad i sgwrs rhwng Chris Bailey – cynghorydd ar Gyngor Tref Treffynnon a dawnsiwr brwd - a rheolwr Canolfan Treffynnon, lansiwyd yr Ŵyl Cadi Ha presennol ym 1997. Fe ddechreuwyd gyda phum ysgol leol, cwpwl o ddawnswyr stepio ac aelodau o griw dawnsio gwerin o’r Wyddgrug, sef Dawnswyr Delyn. Mae Ieuan ap Siôn yn cyflenwi'r gangen o ddraenen ddu hyd at heddiw.

Cynhelid digwyddiadau'n achlysurol nos Wener yng Ngwesty Springfield, Pentre Helygain. Mae'r digwyddiadau bore Sadwrn yn cychwyn efo prif ddigwyddiad yr ŵyl, gorymdaith trwy strydoedd Treffynnon, dilynir gan ddawnsio - gan blant ac oedolion - yn Nhreffynnon. Mae'r ŵyl yn symud ymlaen i Sgwâr Caerwys yn y prynhawn ac yn gorffen efo twmpath – neu yn 2006 efo Fest-Noz - yn Neuadd yr eglwys Santes Fair Yr Wyddgrug gyda nos. Ymwelwyd llefydd eraill ar fore Sul yn y gorffennol, megis Abaty Dinas Basing a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas, Castell Y Fflint, Bagillt a Pharc Gwledig Loggerheads.

Mae Dawnswyr Delyn yn dal i berfformio pob blwyddyn, ac mae eraill wedi ymweld dros y blynyddoedd; Dawnswyr Llangadfan, Dawnswyr Caernarfon, a dawnswyr eraill o Gaerdydd, Caerfyrddin, Y Rhondda,Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy, St Gregoire (gefeilldref Treffynnon yn Llydaw), Bolingey Troyl (Grwp dawnsio a band o Gernyw), Dawnswyr De Wouwe o Fflandrys yng ngorllewin Gwlad Belg a Dawnswyr Bock Nee Fanne a Dawnswyr Perree Bane o Ynys Manaw. Erbyn hyn, cynhelir yr ŵyl wythnos yngynt, sydd yn fwy cyfleus i'r ysgolion.

Dawnswyr Cadi Ha yng Nghaerwys

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Papur Fama, Mehefin 2002
  • Papur Fama, Ebrill 2006
  • Flintshire Chronicle 19 Ebrill 2012

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]