Walts
Gwedd
Dawns neuadd a ddatblygodd o'r Ländler yn y 18g yn yr Almaen ac Awstria yw'r walts[1][2] neu'r wals.[2]
Prif nodwedd y walts yw troedio, llithro, a throedio mewn amser triphlyg tra'n cylchdroi. Yn ei dyddiau cynnar, roedd y walts yn sioc ac yn codi gwrychyn rhai cymdeithasau o fewn Ewrop gan yr anghenraid i gyplau gofleidio'i gilydd yn glos. Ond erbyn y 19g, hon oedd y ddawns neuadd fwyaf poblogaidd, a pharhaodd ei bri drwy'r 20g.[3]
Ymhlith y cyfansoddwyr clasurol a gyfansoddodd waltsiau mae Frédéric Chopin, Pyotr Ilyich Tchaikovsky, Johann Strauss I a Johann Strauss II.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Benthycair o'r gair Saesneg waltz yw "walts".[1] Daw'r gair Saesneg o'r Almaeneg, walzen, sef "i gylchdroi".[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 walts. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2015.
- ↑ 2.0 2.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1637 [waltz].
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) waltz (dance). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2015.