Frédéric Chopin
Frédéric Chopin | |
---|---|
| |
Ganwyd |
Fryderyk Franciszek Chopin ![]() 22 Chwefror 1810, 1 Mawrth 1810 ![]() Żelazowa Wola ![]() |
Bu farw |
17 Hydref 1849 ![]() Achos: diciâu ![]() Paris ![]() |
Man preswyl |
Fienna, Warsaw, Paris ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ffrainc, Ymerodraeth Rwsia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cyfansoddwr, pianydd, athro cerdd, meistr ar ei grefft, cerddor ![]() |
Adnabyddus am |
Études, Polonaise in A-flat major "Heroic", Op. 53, Nocturnes, Ballades ![]() |
Arddull |
cerddoriaeth ramantus, cerddoriaeth glasurol ![]() |
Mudiad |
cerddoriaeth ramantus, cerddoriaeth glasurol ![]() |
Tad |
Nicolas Chopin ![]() |
Mam |
Tekla Justyna Chopin ![]() |
Partner |
Maria Wodzińska, George Sand ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Frédéric François Chopin (1 Mawrth 1810 – 17 Hydref 1849) oedd un o'r cyfansoddwyr enwocaf a mwyaf dylanwadol ar gyfer y piano. Fe'i anwyd yn Fryderyk Franciszek Chopin, ym mhentref Żelazowa Wola, yng Ngwlad Pwyl. Roedd ei dad yn Ffrancwr a oedd wedi ymsefydlu yn y wlad, a'i fam yn Bwyles. Yn Warszawa, fe adnabwyd dawn mentrus y Chopin ifanc wrth ganu'r piano a chyfansoddi. Yn 20 oed, fe adawodd am Baris (ni ddychwelodd i Wlad Pwyl byth eto). Ym Mharis, datblygodd yrfa fel perfformiwr, athro, a chyfansoddwr, ac yno y mabwysiadodd ffurf Ffrangeg ei enw, "Frédéric-François". Ym 1836, cyfarfu â'r awdures Ffrengig George Sand. Cawsant berthynas dymhestlog a barhaodd hyd 1847. Pur wael oedd iechyd Chopin trwy lawer o'i fywyd, a gorfododd hyn iddo beidio â pherfformio'n aml yn y blynyddoed cyn ei farwolaeth.
Cyfansoddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r piano yn ymddangos ymhob un o weithiau Chopin. Mae'r rhan fwyaf ar gyfer piano unigol, ond cynnwys rhai ohonynt ail biano, ffidil, soddgrwth, llais neu gerddorfa.
Mae gan rhai o'i weithiau mawreddog megis y pedwar ballade, y pedwar scherzo, y barcarolle op. 60, y fantaisie op. 49, a'i sonatau le sefydlog yn y repertoire, yn ogystal â gweithiau byrrach. Dau gasgliad pwysig arall yw'r 24 Prelìwd Op. 28, a seiliwyd i ryw raddau ar Das Wohltemperirte Clavier Johann Sebastian Bach, a'r Études Op. 10 ac Op. 25.
Cyfansoddodd Chopin ddau o goncertos piano enwocaf y cyfnod rhamantaidd, (Opws 11 a 21). Yn ogystal, fe osododd lawer o ysgrifau Pwyleg, a rhywfaint o gerddoriaeth siambr.