Cerddoriaeth y Dadeni

Oddi ar Wicipedia

Cyfnod o gerddoriaeth sydd yn cyfateb yn fras i 1400–1600, oes y Dadeni Dysg yn Ewrop, oedd cerddoriaeth y Dadeni. Cafodd ei ragflaenu gan gerddoriaeth yr Oesoedd Canol a'i olynu gan y cyfnod baróc.

Yr Eglwys Gatholig oedd yn rheoli cerddoriaeth gynharach Ewrop, ac heblaw am ganeuon gwerin bu'r mwyafrif o gyfansoddiadau yn seiliedig ar y blaensiant grefyddol. Parhaodd dylanwadau Cristnogol yn ystod y Dadeni, er enghraifft yr Offeren Ladin, ond cafwyd mwy o ryddid gan gyfansoddwyr i dynnu ysbrydoliaeth o gelfyddyd, mytholeg glasurol, a'r gwyddorau. O ganlyniad i'r wasg argraffu, cyhoeddwyd cerddoriaeth a'i dosbarthwyd ar wasgar am y tro cyntaf.

Cerddoriaeth i leisiau oedd y mwyaf o gyfansoddiadau'r Dadeni, gan amlaf darnau corawl neu fadrigalau. Ffynnodd cerddoriaeth ddi-lais hefyd, ar gyfer offerynnau megis y modgorn a'r liwt.

Yn wahanol i lenyddiaeth a chelfyddyd y Dadeni, cychwynnodd y datblygiadau cerddorol yng ngogledd Ffrainc, Fflandrys a'r Isalmaen yn hytrach na'r Eidal. Yn ddiweddarach, ymddangosodd cyfansoddwyr Eidalaidd megis Andrea a Giovanni Gabrieli, Allegri, a Palestrina.