Giovanni Pierluigi da Palestrina

Oddi ar Wicipedia
Giovanni Pierluigi da Palestrina
Ganwyd1525 Edit this on Wikidata
Palestrina Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1594 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTaleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, côr-feistr, athro cerdd, organydd, cyfarwyddwr côr, canwr Edit this on Wikidata
Swyddcôr-feistr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth y Dadeni, cerddoriaeth grefyddol, Cerddoriaeth yr offeren, motêt, church music Edit this on Wikidata
PriodLucrezia Gori, Virginia Dormoli Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr o'r Eidal yng nghyfnod y Dadeni oedd Giovanni Pierluigi da Palestrina (rhwng 3 Chwefror 1525 a'r 2 Chwefror 1526 - 2 Chwefror 1594). Palestrina, fel y'i adnabyddir fel rheol, oedd ffigwr mwyaf adnabyddus cerddoriaeth Rhufain yn yr 16g. Cafodd ddylanwad aruthrol ar ddatblygiad gerddoriaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ac ystyrir fod ei waith yn cynrychioli uchafbwynt cerddoriaeth aml-leisiol (polyffoni) y Dadeni, yn cynnwys nifer o ganeuon madrigal a fersiwn cofiadwy o'r emyn fawr Stabat Mater Dolorosa, i wyth lais.

Cafodd ei eni yn nhref fechan Palestrina, ar ymyl y Campagna Romana ger Rhufain. Pan oedd tua 25 oed cafodd ei apwyntio yn feistr côr Iwlian yn y Fatican. Treuliodd ran helaeth gweddill ei oes yn gweithio yn Rhufain.

Gelwir dull cerddorol arbennig ar gyfer lleisiau yn Alla Palestrina (Eidaleg, "yn null Palestrina") ar ei ôl.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Giovanni Pierluigi da Palestrina yn nhref Palestrina,[1] ger Rhufain, ar y pryd yn rhan o'r Taleithiau'r Babaeth ym 1525, o bosibl ar 3 Chwefror. Roedd ei rieni, Santo a Palma Pierluigi, yn dod o Napoli. Bu farw ei fam ar 16 Ionawr 1536, pan oedd Palestrina  yn 10 oed. Mae dogfennau’n awgrymu iddo ymweld â Rhufain am y tro cyntaf ym 1537, pan gafodd ei restru fel aelod o gôr basilica Santa Maria Maggiore, un o fasilicas pabaidd Esgobaeth Rhufain, a ganiataodd iddo ddysgu llenyddiaeth a cherddoriaeth.[2] Ym 1540, symudodd i Rufain, lle bu'n astudio yn ysgol yr Huguenot Claude Goudimel.  Astudiodd hefyd gyda Robin Mallapert a Firmin Lebel. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn y ddinas.

Daeth Palestrina i oed fel cerddor o dan ddylanwad arddull poliffoni gogledd Ewrop, a oedd yn ddyledus i'w goruchafiaeth yn yr Eidal yn bennaf i ddau gyfansoddwr dylanwadol o'r Iseldiroedd, Guillaume Dufay a Josquin des Prez, a oedd wedi treulio cyfnodau sylweddol o'u gyrfaoedd yno. Nid oedd yr Eidal ei hun wedi cynhyrchu unrhyw un o enwogrwydd na medr tebyg mewn poliffoni eto.[3] Chwaraeodd Orlande de Lassus, a fu'n gydymaith a Palestrina  yn ei flynyddoedd cynnar, ran bwysig wrth ffurfio ei arddull.[2] Rhwng 1544 a 1551, gwasanaethodd Palestrina fel organydd Eglwys Gadeiriol Sant Agapito, prif eglwys ei ddinas enedigol. Ym 1551 penododd y Pab Julius III (Esgob tref Palestrina gynt) Palestrina yn maestro di cappella neu gyfarwyddwr cerdd y Cappella Giulia,[4] côr siapter y canonau ym Masilica Sant Pedr. Cysegrodd Palestrina ei gyfansoddiadau cyhoeddedig cyntaf (1554), llyfr cerddoriaeth yr offeren i Julius III. Hwn oedd y llyfr cyntaf o gerddoriaeth yr offeren gan gyfansoddwr Eidalaidd brodorol, oherwydd yn nhaleithiau Eidalaidd yng nghyfnod Palestrina, roedd y mwyafrif o gyfansoddwyr cerddoriaeth gysegredig yn dod o'r Iseldiroedd, Ffrainc, neu Sbaen.  Mewn gwirionedd modelwyd y llyfr ar un gan Cristóbal de Morales: mae'r torlun pren y wynebddalen gopi bron yn union o'r un yn llyfr y cyfansoddwr Sbaenaidd.

Ym 1555, gorchmynnodd y Pab Paul IV y dylai pob aelod o gôr Pabaidd fod yn glerigwyr. Gan fod Palestrina yn briod gyda phedwar o blant, a bod clerigwyr Catholig yn gorfod bod yn anghydweddog ac yn ddi-briod nid oedd yn cael parhau i wasanaethu yn y capel fel lleygwr.[2] Yn ystod y degawd nesaf, gwasanaethodd Palestrina mewn swyddi tebyg i'r un cyflawnodd yng Nghapel Julian mewn capeli ac eglwysi eraill yn Rhufain, yn benodol yn Eglwys Gadeiriol Sant Ioan Lateran (1555–1560, swydd a ddaliwyd yn flaenorol gan Lassus), a Santa Maria Maggiore (1561–1566). Ym 1571 dychwelodd i Gapel Julian ac arhosodd yn Eglwys Sant Pedr am weddill ei oes. Roedd degawd y 1570au yn anodd iddo ef yn bersonol: collodd ei frawd, dau o'i feibion, a'i wraig mewn tri achos ar wahân o'r pla (1572, 1575, a 1580). Mae'n ymddangos ei fod wedi ystyried dod yn offeiriad ar yr adeg hon, ond yn lle hynny fe ailbriododd, y tro hwn â gweddw gyfoethog. O'r diwedd, rhoddodd hyn annibyniaeth ariannol iddo (ni oedd ei gyflog fel côr-feistr yn un hael) a llwyddodd i gyfansoddi'n doreithiog hyd ei farwolaeth.

Bu farw yn Rhufain o'r pliwrisi ar 2 Chwefror 1594. Dywedir i Palestrina farw ddiwrnod yn unig gyn ei ben-blwydd yn 69 oed. Yn ôl yr arfer, claddwyd Palestrina ar y diwrnod y bu farw, mewn arch blaen gyda phlât plwm gyda'r adysgrifiwyd Libera me Domine (Rhyddha fi, Feistr) arno. Canwyd salm pum rhan ar gyfer dri chôr yn yr angladd.[5] Cynhaliwyd offeren angladdol Palestrina yn Eglwys Sant Pedr, a chladdwyd ef o dan lawr y basilica. Yn ddiweddarach gorchuddiwyd ei feddrod gan adeiladu newydd ac mae ymdrechion i ddod o hyd i'r safle wedi bod yn aflwyddiannus.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Agnus Dei from Missa in Festis Apostolorum
Madrigal Vestiva i colli - Prima parte

Gadawodd Palestrina gannoedd o gyfansoddiadau, gan gynnwys 105 offeren, 68 offrymfa, o leiaf 140 mydrigan a mwy na 300 motét. Yn ogystal, mae o leiaf 72 o emynau, 35 Magnifficat, 11 litani, a phedair neu bum set o alarnadau.[3]

Roedd ei agwedd tuag at fydriganiadau ychydig yn ddryslyd. Yn y rhagair i'w gasgliad o fotetau Canticum canticorum (Cân y Caneuon) (1584) ymwrthododd â gosod testunau seciwlar i fydrigan, dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Llyfr II o'i fydriganiadau seciwlar (rhai ohonynt ymhlith y cyfansoddiadau gorau yn y cyfrwng).[3] Cyhoeddodd ddau gasgliad o fydriganiadau gyda thestunau seciwlar, un yn 1555 ac un arall ym 1586.  Y ddau gasgliad arall oedd mydriganiadau ysbrydol, genre a oedd yn annwyl gan gefnogwyr y Gwrthddiwygiad.

Mae offerennau Palestrina yn dangos sut y datblygodd ei arddull o gyfansoddi dros amser.[3] Roedd Johann Sebastian Bach wedi ei ddylanwadu gan ei Missa sine nomine, a'i hastudiodd a'i perfformiodd wrth ysgrifennu'r Offeren yn B leiaf.[6] Ymddangosodd y rhan fwyaf o offerennau Palestrina mewn tair cyfrol ar ddeg a argraffwyd rhwng 1554 a 1601, y saith olaf yn cael eu cyhoeddi ar ôl ei farwolaeth.[7]

Missa Papae Marcelli, dechreuad y Kyrie

Mae dau rifyn cynhwysfawr o weithiau Palestrina: argraffiad 33 cyfrol a gyhoeddwyd gan Breitkopf und Härtel, yn Leipzig yr Almaen rhwng 1862 a 1894 wedi'i olygu gan Franz Xaver Haberl, ac argraffiad 34 cyfrol a gyhoeddwyd yng nghanol yr ugeinfed ganrif, gan Fratelli Scalera, yn Rhufain, yr Eidal wedi'i olygu gan R. Casimiri ac eraill.

Cymeriad[golygu | golygu cod]

Palestrina, yn cyflwyno ei offerennau i'r Pab Julius III, 1554

Roedd Palestrina yn hynod enwog yn ei ddydd, ac os rhywbeth, cynyddodd ei enw da a'i ddylanwad ar ôl ei farwolaeth. Astudiodd a chopïodd J. S. Bach Lyfr Offerynnau cyntaf Palestrina, ac ym 1742 ysgrifennodd ei addasiad ei hun o'r Kyrie a Gloria o'r Missa sine nomine.[8] Gosododd Felix Mendelssohn ef ym mhantheon y cerddorion mwyaf, gan ysgrifennu, "Rwyf bob amser yn cynhyrfu pan fydd rhai yn canmol Beethoven yn unig, eraill Palestrina yn unig  ac eraill dim ond Mozart neu Bach. Y pedwar ohonynt, meddaf, neu ddim o gwbl."[9]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Yn 2009 cynhyrchwyd ffilm am y cyfansoddwr gan deledu Almaeneg ZDF / Arte. Teitl: Palestrina: Tywysog Cerdd, wedi'i gyfarwyddo gan Georg Brintrup.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Otten, Joseph (1 Chwefror 1911). "Giovanni Pierluigi da Palestrina". New Advent. Cyrchwyd 13 Medi 2018.
  2. 2.0 2.1 2.2 Ferris, George T. (2007). Great Italian and French Composers. Dodo Press. tt. 3-4.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Jerome Roche, Palestrina, Oxford Studies of Composers 7 (Llundain: Oxford University Press, 1971).
  4. Lino Bianchi, Giovanni Pierluigi da Palestrina
  5. Zoe Kendrick Pyne, Giovanni Pierluigi da Palestrina: His Life and Times (London: Bodley Head, 1922).
  6. Christoph Wolff, Der Stile Antico in der Musik Johann Sebastian Bachs: Studien zu Bachs Spätwerk (Wiesbaden: Franz Steiner Verlag, 1968), tt. 224–5.
  7. James Garrat, Palestrina and the German Romantic Imagination (New York: Cambridge University Press, 2002).
  8. Leaver, Robin A. (25 Tachwedd 2016). The Routledge Research Companion to Johann Sebastian Bach. Taylor & Francis. ISBN 978-1-315-45280-7.
  9. Zannos, Susan (Mawrth 2004). The Life and Times of Felix Mendelssohn. Mitchell Lane Publishers. t. 40. palestrina.
  10. Internet Movie Database