Poliffoni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bar o Johann Sebastian Bach "Fugue Rhif 17 yn A flat", BWV 862, o Das Wohltemperierte Clavier (Rhan I), enghraifft enwog o boliffoni gwrthbwynt. Ynghylch y sain hon Play

Arddull canu yw poliffoni (o'r Hen iaith Groeg: πολύ, poli, "sawl" a φωνή, phonè , "llais"). Mae'n golygu gwrthgyferbynu dau neu fwy o linellau melodi i blethu'n gydamserol.

Arweiniodd datblygiad y gelfyddid o ganu poliffonig at ieithwedd gerddorol newydd. Datblygodd canu poliffonig o ganu monoffoni yr Canol Oesoedd a glywir mewn llafar-ganu Gregoraidd. Dogfennir datblygiad canu poliffoni yn Ffrainc gan Pérotin a Léonin,[1] gyda cydnabyddiaeth ohono erbyn diwedd y 12g a dechrau'r 13g.

Ffurfiau Poliffoni y Gorllewin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Yr organum - ychwanegu llais newidd i'r llafarganu Gregoraidd ar bellter y 4ydd a'r 5ed. Mae'r lleisiau'n symud mewn paralel.
  • Y discantus neu disc - lle mae'r lleisiau'n symud mewn paralel ond cyferbyniol, fel arfer, un nodyn yn erbyn un nodyn.
  • Y motet - sy'n cynnwys tri llais neu fwy, a, gyda'r melodi Gregoraidd, a elwir yn tenor, wedi ei leoli fel y llais bwysicaf.

Traddodiad Canu Poliffonig[golygu | golygu cod y dudalen]

Grŵp draddodiadol o Skrapar, Albania

Ceir sawl gwlad a diwylliant sydd â thraddodiad hir o ganu poliffoni nodweddiadol.

Gwledydd y Balcan[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl amrywiaeth ar ganu poliffonig yn y rhanbarth, sŵn sy'n nodweddiadol o'u canu gwerin gan roi nawr cras ond melys i'w canu.

  • Llafarganu Bysantiwm
  • Canu Ojkanje yn Croatia, Serbia, a Bosnia ac Herzegovina
  • Canu Ganga yn Croatia, Montenegro, a Bosnia ac Herzegovina
  • Canu Epirote yng ngogledd Gwlad Greece a de Albania
  • Iso-polyffoni yn ne Albania
  • Canu Gusle yn Serbia, Montenegro, Bosnia ac Herzegovina, Croatia ac Albania
  • Canu Izvika yn Serbia
  • Corau merched o Shopi (Bistritsa Babi) a Pirin, yn Bwlgaria

Corsica[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Corsica yn fyd-enwog am ei chanu poliffonig ac mae'n nodwedd genedlaethol o'r bobl y maent yn ymfalchio ynddo. Gelwir y math yma o ganu Corsicaidd poliffonig yn Paghjella. Nodwedd o'r canu yma yw ei fod yn cynnwys y '3ydd Picardaidd' (Picardy Third; tierce de Picardie).

Georgia[golygu | golygu cod y dudalen]

Côr Rustavi o Jeorjia

Mae canu poliffonig Jeojia wedi ei gydnabod fel rhan o 'Dreftadaeth Diriaethol Ddiwyllianol Dynolryw gan UNESCO ('Intangible Cultural Heritage of Humanity')[2] Gellir dadlau mai polyffoni Georgia yw polffoniwm hynaf yn y byd Cristnogol. Cenir polyffoni Sioraidd yn draddodiadol mewn tair rhan ag anghytseinedd ('dissonance') cryf, pumedau cyfochrog, a system tiwnio unigryw yn seiliedig ar bumedau perffaith. Ceir enghraifft o ganu poliffonig gan y Trio Mandili.

Abchasia[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae poliffoni dwy a thri rhan Abchasaidd wedi'i seilio ar drôn (weithiau drôm dwbl). Ystyrir caneuon drô dwy ran gan ysgolheigion Abchasaidd a Sioraidd yr arddull gynhenid ​​bwysicaf o poliffoni Abchasia (Abkhazia). Mae caneuon drôn dwy ran yn dominyddu yn ardal Gudauta, perfeddwlad yr Abchaisiaid. Yn sgil rhyngweithiadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd rhwng Abchasiaid a Jeorgwyr ar y diriogaeth hon, cafwyd dylanwadau cyfatebol, ac yn arbennig, creu arddull "Georgaidd" newydd o'r enw canu tair rhan yn Abchasia, anhysbys ymhlith yr Adighis. Mae'r arddull hon wedi'i seilio ar ddwy linell melodig blaenllaw (perfformiwyd gan unawdwyr - akhkizkhuo) yn canu ynghyd â'r sylfaen drôn neu ostinato (argizra). Mae arddull Abchasaidd brodorol o boliffoni tair rhan yn defnyddio dronau dwbl (mewn pedwerydd, pumed neu dairwd) ac un llinell melodig flaenllaw ar yr un pryd. Mae Abchacsiaid yn defnyddio diweddeb ('cadence') benodol iawn: tetrachord i symud i lawr, gan ddod i ben ar gyfartaledd pedwerydd.

Chechnya a Ingushia[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wahanol i'r rhan fwyaf i draddodiad canu poliffonig pobloedd eraill gogledd ardal Cawcasws, lle mae polyffoni dwy ran yn y math blaenllaw, mae poliffoni Chechaidd ac Ingush gan fwyaf o dair rhan. Ceir rhan ganolog, cludwr prif alaw y gân, ynghyd â'r drôn dwbl, gan gynnal cyfwng y pumed "o gwmpas" y prif alaw. Mae cyflymder a chordiau, a ddefnyddir mewn canu poliffonig Chechen ac Ingush, yn aml mewn anghytseinedd (seithfed, ail, pedwerydd).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Nodyn:Ref-llibre
  2. http://www.unesco.org/culture/ich/index.php?lg=en&pg=00011&RL=00008%7Ctitle=Georgian Polyphonic Singing|publisher=UNESCO}}