Trio Mandili

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Trio Mandili
Lleoliad Georgia
Gwefan triomandili.com/
Aelodau
  • Mari Qurasbediani
  • Tatia Mgeladze
  • Tako Tsiklauri
Cyn-aelodau
  • Anna Chincharauli
  • Shorena Tsiskarauli
  • Elene Nareshelashvili
  • Irina Midelauri

Triawd cerddorol o wlad Jorjia (Georgia) yw Trio Mandili. Maent yn canu caneuon gwerin Jorjia mewn trefniaint harmoni poliffonig i gyfeiliant liwt Panduri. Mandili yw'r sgarff-ben Jorjaidd a wisgir ganddynt. Maent yn canu yn nhafodiaith Chefsureteg (Saesneg: Khevsureti), ardal yn ngogledd ddwyrain y wlad, sy'n ffinio â Chechnya.

Aelodaeth a Llwyddiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Y tair aelod wreiddiol oedd: Ana Chintscharauli (ანა ჭინჭარაული), Tatya Mgeladze (თათია მგელაძე) a Schorena Ziskarauli (შორენა ცისკარაული). Yr aelodau cyfredol yw: Mari Qurasbediani, Tatia Mgeladze a Tako Tsiklauri.

Daethant i amlygrwydd wedi iddynt lwytho fideo gerddorol arlein o'r gân werin Jorjaidd, "Apareka". Gwelwyd y fideo dros 5 miliwn gwaith.[1][2]

Yn sgil y diddordeb yma fe'i gwahoddwyd i gyngherddau a rhaglenni radio a theledu yn yr Almaen, Gwlad Belg, Gwlad Pŵyl, Rwsia ac Iwcrain.

Cyhoeddwyd 'With Love' yn 2015 oedd yn cyfuno canu caneuon gwerin poliffonig ond hefyd addasiad o'r gân Chito Grito gan Vachtang Kikabidze o'r ffilm gomedi Sofietaidd boblogaidd, Mimino, o 1977.

Cystadlodd y Trio Mandili yn rownd rhagbrofol gwlad Jorjia ar gyfer yr Eurovision Song Contest yn 2017. Daethant yn ddeuddegfed yn y gystadleuaeth.

Ni ddylid drysi y Trio Mandili gydag Ensemble Mandili, a sefydlwyd yn 1996 gan sawl ganwr o rhanbarth Samzche-Javakhetia.[3]

Discograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

2015.: With Love, Trio Mandili (CD, Albwm) not on label none Jorjia

2016.: With Love, Trio Mandili (LP, Albwm, RE) Merlins Orr Records MN 1014LP Yr Almaen

2017.: Enguro

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

3. http://www.tbiliselebi.ge/?mas_id=268442824