Palestrina
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Prifddinas | Palestrina |
| Poblogaeth | 22,063 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Füssen, Bièvres |
| Nawddsant | Agapitus o Palestrina |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas Fetropolitan Rhufain |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 47.02 km² |
| Uwch y môr | 450 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Castel San Pietro Romano, Cave, Gallicano nel Lazio, Rocca di Cave, Rhufain, San Cesareo, Valmontone, Zagarolo, Rocca Priora, Labico, Artena |
| Cyfesurynnau | 41.8333°N 12.9°E |
| Cod post | 00036 |
![]() | |

- Erthygl am y dref yw hon. Am y cyfansoddwr gweler Giovanni Pierluigi da Palestrina.
Tref fechan a chymuned (comune) yn rhanbarth Lazio, yr Eidal, yw Palestrina. Saif ger Rhufain, ac mae'n safle'r dref Rufeinig hynafol Praeneste. Mae ganddi boblogaeth o tua 18,000.
Ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw ar sfale'r dref ers tua 700 CC. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig roedd Teml Fortuna Primigenia yn denu miloedd o bererinion.
Ganed y cyfansoddwr Giovanni Pierluigi da Palestrina yno tua 1525.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Saif Palestrina ar godiad tir Monti Prenestini, sy'n fynydd-dir yng nghanol yr Apennines.
Mae'n ffinio: Artena, Castel San Pietro Romano, Cave, Gallicano nel Lazio, Labico, Rocca di Cave, Rocca Priora, Rhufain, San Cesareo, Valmontone, Zagarolo.
