Liwt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paentiad gan Frans Hals o ddyn yn canu'r liwt (1623–24).

Offeryn tannau yw'r liwt a chanddo dannau yn gyfochrog â'r seinfwrdd ac sydd yn rhedeg ar hyd gwddf gyda blwch ebillion wedi ei blygu yn ôl. Yr oedd mewn bri mawr o'r 14g hyd yr 17g, trwy'r Oesoedd Canol diweddar, y Dadeni, a'r oes faróc.

Cyflwynwyd yr oud i Sbaen gan yr Arabiaid yn y 13g, a chan croesgadwyr a oedd yn dychwelyd o'r Dwyrain Agos. Roedd y liwtiau cynharaf yn Ewrop yn debyg iawn i'r oud: corff ar lun gellygen wedi ei thorri yn hanner ar ei hyd, gwddf a chanddo flwch ebillion wedi ei blygu yn ôl, a phedwar tant a dynnir o'r ebillion hyd at grib ar fola'r offeryn. Cafodd y tannau eu plycio gyda chwilsyn.[1]

Datblygodd y liwt Ewropeaidd i gael twll mawr yn ei fola, ac yn aml darlun tyllog o rosyn wedi ei gerfio yn y pren, ac wyth tant wedi eu rhannu'n barau (pedwar coraid). Yn ystod y 15g, dechrewyd canu'r liwt gyda'r bysedd yn hytrach na chwilsyn, ac ychwanegwyd pâr arall o dannau. Yn yr 16g, ar anterth y Dadeni, roedd gan y liwt chwe choraid (pum pâr ac un tant ar ben ei hun).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Lute. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2017.