Georgia Ruth
Georgia Ruth | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 Ionawr 1988 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr ![]() |
Arddull | canu gwerin ![]() |
Gwefan | http://www.georgiaruthmusic.co.uk/ ![]() |
Cyflwynwraig, cantores a thelynores gwerin a blŵs, a nofelydd o Gymru[1] yw Georgia Ruth, (ganwyd Georgia Ruth Williams; 5 Ionawr 1988[2]). Mae Georgia yn canu ac yn cyfansoddi yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Magwyd hi yn Aberystwyth, a dechreuodd ganu'r delyn pan oedd yn saith oed. Ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt yn 2009 bu'n byw yn Llundain ac wedyn yn Brighton cyn iddi ddod yn ôl i Gymru. Ar hyn o bryd (2025) mae hi'n byw yn Aberystwyth, ei thref enedigol.[1] Mae hi'n cyflwyno sioe wythnosol ar Radio Cymru.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Georgia'n briod ag Iwan Huws (prif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog).[1] Mae ganddynt bedwar o blant.
Steil a Dylanwadau
[golygu | golygu cod]Datblygodd Georgia steil anarferol mewn canu'r delyn, mwy fel chwarae gitâr na'r dull traddodiadol. Bydd hi'n canu mewn steil gwerin ond mae arlliw o'r blws yn y canu hefyd. Yn ôl Georgia, dylanwadodd y canlynol arni: Meic Stevens, Bert Jansch, Nick Drake, St Vincent, Richard Thompson, Charlotte Gainsbourg, Teddy Thompson, Joan as Policewoman, Toumani Diabete, Nick Cave, Aimee Mann ac Ani DiFranco.
Gyrfa gynnar
[golygu | golygu cod]Pan oedd Georgia'n fyfyrwraig ac yn fuan wedi hynny, cafodd enw da am ei pherfformiadau. Perfformiodd i gynulleidfaoedd mawr fel Gŵyl Sŵn a Gŵyl Glastonbury. Cafodd gasgliad o bedair cân, tair Saesneg ac un Gymraeg, ei recordio yn 2010, dan yr enw "Georgia Ruth". Cyhoeddwyd "In Luna" (EP) yn 2012 ar label Gwymon. Y flwyddyn ganlynol cynhyrchodd ei halbwm cyntaf, "Week of Pines".
2013 - Week of Pines
[golygu | golygu cod]Ym mis Mai 2013 rhyddhawyd "Week of Pines" a gafodd ei recordio yn stiwdio Bryn Derwen, Gwynedd y flwyddyn flaenorol. Cafodd yr albwm ei groesawu ar unwaith gan adolygwyr. "The Welsh harpist Georgia Ruth is a rare talent, able to transcend borders of language, style and age with apparent ease" yw enghraifft o'r ymateb, gan Andy Gill, yn The Independent.[3] Enillodd Georgia Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2013 am yr albwm.
Cafodd Georgia ei henwebu am wobr mewn dau gategori y 2014 Radio 2 Folk Awards.
Yn 2014 cafodd Georgia wahoddiad i ganu ar albwm Futurology gan Manic Street Preachers. Canodd hi gyda James Dean Bradfield ar y trac Divine Youth.
Discograffiaeth
[golygu | golygu cod]- In Luna (2012, EP, Gwymon.)
- Week of Pines (2013, Albwm, Gwymon.)
- Ghazalaw (2015, Albwm, Masters of the Universe.)
- Fossil Scale (Navigator, 2016)
- Mai (Bubblewrap, 2020)
- Cool Head (Bubblewrap, 2024)
Gwaith fel awdur
[golygu | golygu cod]Yn 2024, cyhoeddwyd ei nofel Saesneg Tell me who I am, sy'n cyd-fynd â'i halbwm Cool Head. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, cyhoeddwyd ei chyfrol Gymraeg gyntaf Casglu Llwch, sy'n gasgliad o fyfyrdodau.[4][1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "BBC Radio Cymru - Beti a'i Phobol, Georgia Ruth". BBC. Cyrchwyd 2025-02-21.
- ↑ BBC Wales: Music
- ↑ Gwefan Yr Independant Archifwyd 2013-12-20 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 4 Medi 2013.
- ↑ "www.gwales.com - 9781800995550, Casglu Llwch". www.gwales.com. Cyrchwyd 2025-02-21.