Jacob Ifan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jacob Ifan
GanwydJacob Ifan Prytherch
1993 (24–25 oed)
Caerdydd
CenedligrwyddCymru Cymro
Enwau eraillJacob Ifan Prytherch
AddysgColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
GalwedigaethActor
Gweithgar2015-presennol

Actor Cymreig yw Jacob Ifan (ganwyd yn 1993).[1][2] sy'n adnabyddus am ei brif ran yn chwarae Jake Vickers yng nghyfres ddrama heddlu'r BBC, Cuffs a prif ran yn nrama Gymraeg Bang ar S4C.[3][4]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Jacob yng Nghaerdydd a roedd byw yn Nhreganna cyn i'r teulu symud i Aberystwyth pan oedd yn naw mlwydd oed.[5] Roedd ei rieni yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol. Bu'r teulu hefyd yn byw yn Y Borth a Llanfihangel y Creuddyn. Mae gan Jacob frawd hŷn a chwaer iau.[6] Aeth i Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Penweddig.[7]

Roedd yn frwdfrydig am ffilmiau pan oedd e'n tyfu fyny ac am fod yn rhan o'r byd hwnnw. Aeth i glwb drama Arad Goch yn blentyn ac wrth fynd yn hŷn roedd yn manteisio fwy ar gyfleoedd actio a'i gymryd yn fwy difrifol. Ymunodd â theatr ieuenctid yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a ceisiodd am le yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Graddiodd Ifan o'r coleg yn 2015, tra ei fod wedi dechrau ffilmio Cuffs.[8][9]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2015–2016 Cuffs[10] PC Jake Vickers
2016 Y Gwyll Trystan Meilir Cyfres 3, Pennod 1
2017 Bang Sam

Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan
2016 Music, War and Love[11] David Rosenwald

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Jacob Ifan Prytherch's Page". http://community.nationaltheatrewales.org/profile/JacobIfanPrytherch. Adalwyd 2015-11-19.
  2. "Why Cuffs star Jacob Ifan is one to watch". http://www.radiotimes.com/news/2015-10-28/why-cuffs-star-jacob-ifan-is-one-to-watch. Adalwyd 2015-11-18.
  3. "The Version Interview... Jacob Ifan on new BBC drama, Cuffs.". The Version. 23 October 2015. http://www.theversion.co.uk/tv-news/2015/10/23/the-version-interview-jacob-ifan-on-new-bbc-drama-cuffs. Adalwyd 2015-11-19.
  4. "Cuffs – meet the cast". http://www.radiotimes.com/news/2015-10-28/cuffs--meet-the-cast. Adalwyd 2015-11-18.
  5. William, Kathryn. New drama Cuffs introduces the sexiest copper on the box... and he just happens to be Welsh (en) , WalesOnline, 27 Hydref 2015. Cyrchwyd ar 14 Chwefror 2016.
  6. Yr ifanc a ŵyr? , BBC Cymru Fyw, 9 Medi 2017.
  7. Aber actor Jacob praises arts centre ahead of his new TV premiere (en) , Cambrian News, 28 Hydref 2015. Cyrchwyd ar 14 Chwefror 2016.
  8. "Jacob Ifan - Actors 2015 - Royal Welsh College of Music & Drama". http://www.rwcmd.ac.uk/profiles/acting/2015/details/jacob_ifan.aspx. Adalwyd 2015-11-19.
  9. "Cuffs is an exciting new BBC police drama set in Brighton". http://www.westernmorningnews.co.uk/Cuffs-exciting-new-BBC-police-drama-set-Brighton/story-28018260-detail/story.html. Adalwyd 2015-11-19.
  10. "The Apprentice and Cuffs review by CHRISTOPHER STEVENS". Mail Online. 29 October 2015. http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-3294470/CHRISTOPHER-STEVENS-reviews-night-s-TV.html. Adalwyd 2015-11-19.
  11. "Jacob Ifan - Hamilton Hodell - CV". http://www.hamiltonhodell.co.uk/cv/client_jacob-ifan_id_100366.htm. Adalwyd 2015-11-19.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]