Gerald Morgan
| Gerald Morgan | |
|---|---|
Gerald yn 2025, ar ei benblwydd yn 90 oed | |
| Ganwyd | 21 Mehefin 1935 Brighton |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | pennaeth, hanesydd |
| Priod | Enid Morgan |
| Plant | Geraint Morgan |
Mae Gerald Morgan yn awdur, hanesydd ac addysgwr o Gymru (ganwyd 21 Mehefin 1935).
Addysg a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganed Gerald Morgan yn Brighton yn 1935 i rieni o Gymry: ei dad Tudor yn Gymro Cymraeg o Bontardawe. Aeth Gerald ati i ddygu Cymraeg, "o ddim" gyda chymorth ei gyd-fyfyrwyr yn Rhydychen.[1] Graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Caergrawnt ac mewn Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Rhydychen cyn symud i fyw i Gymru yn 1962. Bu'n athro Saesneg yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug ac Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn dod yn brifathro Ysgol Gyfun Llangefni yn 1968 ac wedyn yn brifathro cyntaf Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth yn 1973.
Gadawodd Gerald Ysgol Penweddig yn 1989 i fod yn ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Allanol Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a gorffen yn 2001.
Mae Gerald Morgan wedi bod yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg dros gyfnod o hanner canrif.
Mae hefyd wedi ysgrifennu’n fynych ar Geredigion.
Tywysydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth
[golygu | golygu cod]
Yn 2015 penodwyd Gerald i rôl 'Tywysydd' yn nathliadau Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror. Mae bod yn Dywysydd yn arwydd o anrhydedd fel cydnabyddiaeth am gyfraniad i Gymreictod a'r Gymraeg yn ardal Aberystwyth.
Nododd Cadeirydd y Parêd, Siôn Jobbins mewn datganiad i'r wasg adeg yr orymdaith, fod "Gerald wedi bod yn bont rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ers degawdau. Er ei fod o deulu Cymreig doedd ganddo ddim Cymraeg a bu’n rhaid iddo ddechrau 'o ddim' cyn dod yn rhugl yn yr iaith. Mae hyn, a’i ddealltwriaeth dwfn o Gymru ac o’i deulu estynedig Gymreig, wedi rhoi iddo ddealltwriaeth dda wrth gynorthwyo pobl o bob cefndir i ddysgu Cymraeg.”
Personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod â'r Parchedig Ganon Enid Morgan. Mae ganddynt 3 mab a 6 ŵyr. Mae e'n gasglwr llyfrau o fri.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Yr Afal Aur (Cwmni Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1965)
- The Dragon's Tounge (Gwasg Triskel, 1966)
- (gol.)This World of Wales: an Anthology of Anglo-Welsh Poetry (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968)
- Ar y cyd gyda A.K. Morris, Gwyn Fyd … (Gwasg Gomer, 1978)
- (gol.) Lle Diogel i Sobri: Sef Hunangofiant Thomas Williams (Capelulo), (Gwasg Carreg Gwalch, 1982)
- Y Dyn a Wnaeth Argraff: Bywyd a Gwaith yr Argraffydd Hynod John Jones, Llanrwst (Gwasg Carreg Gwalch, 1982)
- Y Rhufeiniaid yng Nghymru (Cydbwyllgor Addysg Cymru, 1985)
- Crist yn y Gwlag (Gwasg Carreg Gwalch, 1986)
- Romans in Wales (Welsh Joint Education Committee, 1987)
- Ieuan Fardd, Cyfres Llên y Llenor (Gwasg Pantycelyn, 1988)
- Cyfoeth y Cardi: Ysgrifau ar Hanes Ceredigion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1995)
- Helyntion y Cardi: Ysgrifau ar Hanes Ceredigion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1997)
- A Welsh House and its Family: The Vaughans of Trawsgoed (Gwasg Gomer, 1997)
- (gol.) Nanteos: A Welsh House and its Families (Gwasg Gomer, 2001)
- Ceredigion: A Wealth of History (Gwasg Gomer, 2005)
- A Brief History of Wales (Y Lolfa, 2008)
- Castles in Wales: A Handbook (Y Lolfa, 2008)
- Llwybr Arfordir Ceredigion/Ceredigion Coast Path (Cyngor Sir Ceredigion, 2008)
- (cyfieithydd) Owain Glyn Dŵr gan R.R. Davies (Y Lolfa, 2009)
- Looking for Wales: An Introductory Guide (Y Lolfa, 2013)
- Dinefwr: A Phoenix in Wales (Gwasg Gomer, 2014)
- Cymro a'i Lyfrau (Y Lolfa, 2017)
- Ar Drywydd Dewi Sant (Y Lolfa, 2017)
- In Pursuit of Saint David (Y Lolfa, 2017)
- Ewyllysiau Cymraeg: Pennod Goll yn Hanes yr Iaith (Y Lolfa, 2022)
- The Powells of Nanteos (Y Lolfa, 2025)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Datganiad i'r wasg ar gyfer Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2015
- ↑ "Gwefr prynu Beibl 'sydd mor brin â dannedd iâr'". BBC Cymru Fyw. 15 Mehefin 2025. Cyrchwyd 15 Mehefin 2025.