Aristocratiaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ffurf o lywodraeth sy'n rhoi grym i'r bendefigaeth, dosbarth a honnir eu bod yn oreuon cymdeithas, yw aristocratiaeth.[1] Daw'r term yn y bôn o'r geiriau Groeg ἄριστος (aristos), sef "gorau" neu "ardderchog", a κράτος (kratos), sef "rheolaeth" neu "lywodraeth".

Yn Y Wladwriaeth, dadleuai'r hen Roegwr Platon taw'r dynion doeth ydy'r rhai a ddylent llywodraethu cymdeithas. Elît o ddinasyddion diwylliedig, hyddysg a rhesymol oedd y llywodraeth orau yn ôl Aristoteles. Canolbwyntiodd meddylwyr yr Oesoedd Canol ar faterion crefyddol yn bennaf, ac iddynt hwy y llywodraeth orau oedd arweinyddiaeth o Gristnogion duwiol, os nad seintiau. Ysgrifennodd Thomas Jefferson am "aristocratiaeth naturiol" sy'n dyrchafu unigolion rhinweddol a doniog i frig y gymdeithas.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  aristocratiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ebrill 2019.
  2. Garrett Ward Sheldon, Encyclopedia of Political Thought (Efrog Newydd: Facts On File, 2001), tt. 18–19.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Samuel Clark, State and Status: The Rise of the State and Aristocratic Power in Western Europe (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995).
  • Ellis Wasson, Aristocracy and the Modern World (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2006).