Ynys Baffin
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | William Baffin |
| Poblogaeth | 13,148 |
| Cylchfa amser | UTC−04:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
| Sir | Nunavut |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 507,451 km² |
| Uwch y môr | 2,147 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
| Cyfesurynnau | 69°N 73°W, 68°N 70°W |
| Hyd | 1,600 cilometr |
![]() | |

Ynys Arctig yng nghanolbarth gogledd Canada yw Ynys Baffin (Ffrangeg: Île de Baffin). Ynys Baffin yw ynys fwyaf Canada a'r bumed fwyaf yn y byd, gydag arwynebedd o 507,451 km² (195,928 milltir sgwar); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae ganddi boblogaeth o tua 11,000 (2007). Fe'i henwir ar ôl y fforiwr o Brydain, William Baffin. Roedd y Llychlynwyr yn ei hadnabod fel Helluland. Iqaluit, Bae Frobisher gynt, yw cymuned mwyaf Ynys Baffin a phrifddinas diriogaethol Nunavut, tiriogaeth ieuengaf Canada. Mae nifer sylweddol o drigolion yr ynys yn bobl Inuit. Mae Ynys Baffin yn rhan o ranbarth Qikiqtaaluk.
Cymunedau (yn ôl maint) (ffigurau 2006)
[golygu | golygu cod]| Iqaluit | 6,184 |
| Pangnirtung | 1,325 |
| Pond Inlet | 1,315 |
| Clyde River | 820 |
| Arctic Bay | 690 |
| Kimmirut | 411 |
| Nanisivik | 0 (o 77 yn 2001- cau mwynglawdd) |
Yn ogystal, ceir cymunedau Qikiqtarjuaq a Cape Dorset ar ynysoedd gerllaw.

