Marco Polo

Oddi ar Wicipedia
Marco Polo
Ganwyd15 Medi 1254 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ionawr 1324 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaethmasnachwr, fforiwr, diplomydd, llysgennad, teithiwr byd, ysgrifennwr, teithiwr, entrepreneur, bywgraffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe book of Ser Marco Polo the Venetian concerning the kingdoms and marvels of the East Edit this on Wikidata
TadNiccolò Polo Edit this on Wikidata
PriodDonata Badoer Edit this on Wikidata
PlantFantina Polo, Agnese Edit this on Wikidata
PerthnasauMaffeo Polo Edit this on Wikidata

Masnachwr a fforiwr o'r Eidal oedd Marco Polo (ˈmarko ˈpɔːlo; 15 Medi 12548 Ionawr 1324). Aeth ar daith hir dros Asia i Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Yuan, gan ddilyn Llwybr y Sidan o arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir a thrwy Ganolbarth Asia a Mongolia i Tsieina.[1][2] Cofnodwyd ei deithiau yn Livres des merveilles du monde ("Llyfr Rhyfeddodau'r Byd") gan Rustichello da Pisa, llyfr a gyflwynodd Canol Asia a Tsieina i'r Ewropeaid.

Dysgodd y grefft o farchnata gan ei dad a'i ewyrth (Niccolò a Maffeo Polo) a deithiodd drwy Asia ac a ddaethant wyneb yn wyneb gyda Kublai Khan. Yn 1269 y cychwynodd y tri eu taith gan ddychwelyd 24 blynedd yn ddiweddarach – i ganol rhyfel rhwng Fenis a Genova. Carcharwyd Marco a llefarodd ei helyntion yn Asia wrth ei gyd-carcharor Rusticello da Pisa, a gofnododd y cyfan ar ei ran. Cafodd ei ryddhau yn 1299 a daeth yn fasnachwr cyfoethog; priododd a chawsant dri o blant. Bu farw yn 1324 ac fe'i claddwyd yn Eglwys San Lorenzo, Fenis.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. William Tait, Christian Isobel Johnstone (1843), Tait's Edinburgh magazine, Cyfrol 10, Edinburgh
  2. Hinds, Kathryn (2002), Venice and Its Merchant Empire, Efrog Newydd
Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.