Cartograffeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o Gymru gan Humphrey Lhuyd a gyhoeddwyd yn Atlas Lord Burghley yn 1579.
Gwyddorau daear
Gwyddorau daear

Bioamrywiaeth
Cartograffeg
Cloddio
Daeareg
Daearyddiaeth
Defnydd tir
Demograffeg
Ecoleg
Eigioneg
Geocemeg
Hanes daearegol
Hydroleg
Meteoroleg
Morffoleg
Mwynyddiaeth
Paleontoleg
Petroleg
Rhewlifeg
Seismoleg


Gwyddor gwneud mapiau a globau yw cartograffeg. Yn y gorffennol roedd cartograffwyr yn defnyddio pin a phapur i wneud hynny, ond erbyn heddiw mae llawer o fapiau yn cael eu gwneud trwy ddefnyddio cyfrifiaduron gyda meddalwedd arbennig: dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu feddalwedd dylunio mapiau arbennig eraill.

Ail-luniad o fap y byd gan Hecataeus, tua 500 C.C.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylunwyd y map cynharaf tua 5000 CC, ond achosodd darganfod geometreg (yn Babilon, tua 2300 CC) ddatblygiadau mawr yn hanes gwneuthuriad mapiau. Mae'n bosib weld hynny ar fap enwog o Nippur (Babilon, tua 1400-1200 C.C.) a mapiau o'r cyfnod clasurol o'r Aifft.

Cafwyd datblygiadau pellach yng Ngroeg yr Henfyd. Ygrifennodd Strabo (tua 63 CC i 21 OC) ei lyfr dylanwadol Geographia. Daearegwyr enwog eraill o'r cyfnod yw Thales o Filetos, Anaximandros o Filetos, Aristarchus o Samos (y dyn cyntaf i ddweud fod y Ddaear yn symud o gwmpas yr haul) ac Eratosthenes o Cyrene. Mae dylanwad Pythagoras ac Aristoteles yn bwysig hefyd. Yn y cyfnod hwnnw y cyflwynwyd y system o hydred a lledred sy'n cael ei ddefnyddio heddiw.

Un o gartograffwyr enwocaf yr Oesoedd Canol oedd Roger Bacon a'r enwocaf yn y 15G oedd y Cymro Humphrey Lhuyd (1527 - 31 Awst 1568) oFoxhall yn Dinbych. Roedd y mwyafrif o'r mapiau a ddylunwyd yn ystod yr Oesoedd Canol yn dangos y byd yn ôl syniadaeth grefyddol y cyfnod, gyda'r tir i gyd yng nghanol disg fawr a'r môr o'i gwmpas. Fodd bynnag, roedd teithiau cyntaf Ewropwyr i'r gorllewin a'r diddordeb mewn gwledydd tramor a chreu gwladfeydd a ddaeth yn sgîl hynny, yn ysbardun i ddatblygu technegau cartograffeg newydd ar linellau mwy gwyddonol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]